Elusennau yn gofyn i Gymru Godi ei Llais a Stopio Troseddau Casineb

0
778

Ar gyfer Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, mae elusen annibynnol Crimestoppers wedi ymuno gyda Chymorth i Ddioddefwyr Cymru mewn ymgyrch newydd yng Nghymru sy’n annog pobl i godi eu llais yn erbyn rhagfarn.

Er bod nifer yr achosion o droseddau casineb wedi cynyddu eleni, mae’r elusennau yn dweud bod diffyg dealltwriaeth o hyd ac nas adroddir am bob digwyddiad.  Ystyr trosedd gasineb yw unrhyw drosedd y mae’r dioddefwr neu unrhyw un arall yn barnu ei bod yn cael ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn sy’n seiliedig ar anabledd, hil, crefydd, hunaniaeth trawsryweddol neu gyfeiriadedd rhywiol rhywun.

Er mis Ebrill 2020, gwelwyd twf o tua 70% yn nifer yr achosion o droseddau casineb yng Nghymru a gyfeiriwyd i Ganolfan Adrodd a Chymorth Genedlaethol Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr.

Mewn un achos, ymosodwyd yn ddireswm ar un fenyw rhannol ddall pan oedd hi allan yn cerdded yn ystod y dydd ar stryd yn Ne Cymru, oherwydd ei hanabledd.  Yn ogystal â’r anafiadau corfforol, roedd hi’n teimlo’n hynod o unig ar ôl y digwyddiad, a waethygwyd gan y ffaith ei bod yn destun trefniadau gwarchod yn ystod pandemig Covid-19.

Bu tystiolaeth tyst pwysig yn hollbwysig er mwyn collfarnu’r ymosodwr.  Mae Crimestoppers yn annog y cyhoedd i godi eu llais yn erbyn troseddau casineb yn eu cymuned trwy roi gwybodaeth iddynt am ddigwyddiadau mewn ffordd hollol ddienw.

Dywedodd Ella Rabaiotti, Rheolwr Cenedlaethol ar gyfer Crimestoppers yng Nghymru:

“Mae Crimestoppers o’r farn nad yw troseddau sy’n cael eu hysgogi gan gasineb neu ragfarn fyth yn dderbyniol, a dyma pam ein bod wastad yn annog pobl i roi gwybodaeth.  Gall troseddau casineb ddigwydd yn eich cymdogaeth chi neu ar-lein; gall dioddefwyr gael eu cam-drin yn gorfforol neu ar lafar, neu gall eu heiddo gael ei ddifrodi.

“Yn aml, ni fydd dioddefwyr a thystion yn gwybod a oes trosedd wedi cael ei chyflawni neu byddant o’r farn na allant wneud rhyw lawer am y peth.  Os oes gennych chi wybodaeth am drosedd gasineb, dylech deimlo’n hyderus bod wastad rhywbeth y gallwch ei wneud i helpu – trwy ddweud wrthym yr hyn yr ydych yn ei wybod mewn ffordd hollol ddienw – trwy ffonio ein Canolfan Gyswllt yn y DU sydd ar agor 24/7 ar rif rhadffôn 0800 555 111 neu thrwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein ddienw syml a diogel trwy droi at www.crimestoppers-uk.org.”

Dywedodd Jessica Rees, Rheolwr Canolfan Adrodd a Chymorth Genedlaethol Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr yng Nghymru:

“Yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb eleni, mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru a Crimestoppers yn cydweithio ar ymgyrch ddigidol, gan ganolbwyntio ar rymuso pobl i godi eu llais yn erbyn troseddau casineb.  Bydd y neges hon yn annog y gymuned i sefyll yn erbyn casineb gyda’i gilydd, trwy adrodd am hyn mewn ffordd ddiogel a dienw trwy Crimestoppers a manteisio ar gymorth trwy Gymorth i Ddioddefwyr.

“Trwy gydol y cyfnod heriol hwn, rydym dal wedi gweld twf yn elfennau gorau pobl.  Mae nifer ohonom yn codi ein llais yn erbyn casineb a gwahaniaethu, gan sefyll gyda’n gilydd a rhannu ein lleisiau a’n straeon.  Cyn bo hir, bydd y cyfnodau gwaethaf yn pylu a byddwn yn gymuned gryfach o’r herwydd, ar ôl i ni ddod ynghyd i wynebu rhywbeth y gallwn ac y byddwn yn ei drechu.”

Gallwch gael gwybodaeth am yr ymgyrch hon yma. 

Gellir cyfleu gwybodaeth am droseddau casineb i Crimestoppers trwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein ddienw, nad oes modd ei holrhain, sydd ar gael ar www.crimestoppers-uk.org neu trwy ffonio rhif rhadffôn 0800 555 111.

Os ydych chi wedi dioddef Trosedd Gasineb, cysylltwch â Thîm Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth cyfrinachol ac am ddim, ar 0300 3031 982 neu ar-lein trwy droi at https://www.reporthate.victimsupport.org.uk/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleAROUND THE WORLD IN 40 WINKS
Next articleLGA RESPONDS TO PM COVID-19 ALERT LEVEL ANNOUNCEMENT
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.