Artistiaid, radio ysbyty a mentrau cyflogaeth – wyneb newydd Rheilffyrdd Cymunedol yng Nghymru

0
405

Mae Trafnidiaeth Cymru yn carlamu ymlaen gyda’i gynlluniau i greu hybiau cymunedol mewn gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru.

Fel rhan o’i Gweledigaeth ar gyfer Rheilffyrdd Cymunedol, mae TrC yn parhau i weithio gyda chymunedau a mudiadau lleol ledled Cymru er mwyn i ofod gorsafoedd rheilffyrdd gael eu defnyddio.

Yng Ngorsaf Reilffordd y Fenni, mae TrC yn buddsoddi bron i £300,000, a bydd eu hystafelloedd yn cael eu meddiannu gan orsaf radio ysbyty a sefydliad celfyddydol.

Sain Nevill Hall yw’r orsaf radio ar gyfer Ysbyty Nevill Hall a’r gymuned leol, ac mae Peak Cymru yn fudiad celfyddydol yn ardal y Mynydd Du sy’n gweithio’n greadigol gydag artistiaid proffesiynol a chymunedau.  Gan ddefnyddio gofod yr orsaf ar gyfer stiwdio gelf ac orielau, nod cyffredinol Peak Cymru yw cynyddu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â’r gwahanol rannau o’u rhaglen artistig.

Yn Llandudno, mae TrC yn buddsoddi dros £100,000 i roi lle i ‘Creu Menter’, sef mudiad nid-er-elw sy’n canolbwyntio ar helpu pobl leol i fentrau cyflogaeth.  Bydd Creu Menter hefyd yn gofalu am y Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol ar gyfer Dyffryn Conwy, gan ymestyn i Ynys Môn a chyrraedd mwy o gymunedau yng Nghymru.

Mae’r gwelliannau a weithredir gan TrC i orsafoedd rheilffyrdd yn cefnogi’r rhaglen fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru, sy’n werth £90 miliwn i drawsnewid trefi Cymru.

 

TFWCommunityRailOfficerPhotoshoot2020.09.14-9

 

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Bydd y pandemig yn ail-siapio’r ffordd y mae ein cymunedau yn edrych, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein huchelgais hirdymor i weld mwy o bobl yn gweithio o gartref neu’n agos at gartref.

“Rydyn ni eisoes wedi cadarnhau £90m o fuddsoddiad mewn canol trefi ledled Cymru drwy ein pecyn Trawsnewid Trefi. Fel rhan o hyn, rydyn ni hefyd yn rhoi ‘Canol y Dref yn Gyntaf’ drwy leoli gwasanaethau ac adeiladau yng nghanol trefi pryd bynnag y bo modd. Byddai cael mwy o gyfleusterau cymunedol mewn gorsafoedd rheilffordd yn gallu bod yn rhan bwysig o’r newidiadau hyn.

“Mae’r Weledigaeth ar gyfer Gwella Gorsafoedd yn gwneud gorsafoedd yn llefydd gwell i fod, tra mae’r Weledigaeth ar gyfer Rheilffyrdd Cymunedol yn rhoi mwy o resymau i fynd iddynt. Nid gwasanaethu ein cymunedau yn unig y mae Trafnidiaeth Cymru, ond bod yn rhan weithredol ohonynt hefyd.”

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae’n wych gweld cynnydd yn y cam cyntaf o’r buddsoddiad i ddatblygu hybiau cymunedol yn ein gorsafoedd rheilffyrdd.  Yn ddiweddar, gwelsom y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am ei huchelgais hirdymor i gadw 30% o’r gweithlu i weithio o gartref, gan sefydlu canolfannau cymunedol i helpu i adfywio ardaloedd ledled Cymru.

“Yn TrC, rydyn ni’n ystyried ein gorsafoedd rheilffyrdd fel hybiau o’r fath, ac rydyn ni eisoes yn gweithio gyda gorsafoedd radio lleol, mudiadau celfyddydol, mentrau cymdeithasol a busnesau bach i integreiddio ein gorsafoedd yng nghymunedau Cymru.

“Mae TrC hefyd wedi recriwtio pum Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned i weithio ochr yn ochr â’r tîm Rheilffyrdd Cymunedol i feithrin perthynas ar lawr gwlad â mudiadau lleol ac i gasglu mewnbwn gan gymunedau er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed mewn gwaith cynllunio trafnidiaeth leol.”

Mae TrC wedi lansio’r Bartneriaeth Rheilffordd Cymunedol ar gyfer Cysylltu De-orllewin Cymru gyda 4theregion yn Abertawe, ac rydyn ni wedi cyflwyno busnesau annibynnol bach i Fargoed, Ffynnon Taf a Chaerfyrddin.

Ychwanegodd Sharon Jones, Cyfarwyddwr Partneriaethau Creu Menter:

“Rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle i sefydlu hwb newydd sbon o fewn adeilad mor brydferth yng nghanol ein cymuned. Mae’r cynlluniau yn eu lle i fynd ati’n ofalus i’w drawsnewid yn lle hygyrch a bywiog lle gallwn ni ymateb i anghenion lleol a darparu gwasanaeth o safon er mwyn pawb. Wrth i Gymru ymaddasu i’r ‘normal newydd’, rydyn ni’n barod i gynnig cyfleoedd, cefnogaeth ac adnoddau i helpu Conwy i ymaddasu a ffynnu.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle