Datganiad ar y cyd ar Fil y Farchnad Fewnol gan TUC Cymru, STUC a NIC-ICTU

0
517
Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary

Mae arweinwyr y tri ffederasiwn undebau llafur yng ngwledydd a rhanbarthau datganoledig y DU wedi uno i fynegi eu gwrthwynebiad cadarn a’u pryderon difrifol ynghylch Mesur y Farchnad Fewnol sydd yn mynd drwy Senedd y DU.

Mae’r tri ffederasiwn, TUC Cymru, yr STUC a NIC-ITUC gyda’i gilydd yn cynrychioli dros 1 filiwn o weithwyr drwy’r dwsinau o undebau llafur sy’n gysylltiedig â’r cyrff hyn, gan eu gwneud ymhlith y cyrff cymdeithas sifil fwyaf a mwyaf cynrychioliadol yn y DU. Mae pob un o’r tri ffederasiwn yn gweithio’n agos gyda’u priod weinyddiaethau datganoledig yn Holyrood, Caerdydd a Stormont, mae ganddynt gysylltiadau dwfn a chynhyrchiol â busnesau a chymunedau, ac maent yn ymgysylltu’n gyfartal â barnau gwleidyddol o bob lliw yn eu gwladwriaethau datganoledig.

Dywedodd Rozanne Foyer, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres Undebau  Llafur yr Alban (STUC):

“Mae ein pryderon am y Bil nid yn unig yn ymwneud â’r ffaith y bydd yn amlwg iawn yn torri cyfraith ryngwladol ac yn gwneud cytundeb Perthynas yn y Dyfodol rhwng y DU a’r UE hyd yn oed yn fwy annhebygol, er pa mor ddifrifol yr hyn.

“Rydym yn gwrthwynebu’n gryf fyrdwn y Bil a fyddai’n effeithio’n sylweddol ac yn negyddol ar y setliad datganoli ledled y DU, gan lesteirio gallu Llywodraethau datganoledig i ddeddfu’n annibynnol a gosod eu cyfeiriad polisi eu hunain ar wahân i agenda Brexit Dorïaidd yn San Steffan.”

Ychwanegodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres Undebau Llafur Cymru:

“Yn hytrach na dychwelyd pwerau i’r gweinyddiaethau datganoledig, mae’r Mesur hwn yn canoli grym yn San Steffan. Mae’n bygwth cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i sicrhau newid cynyddol drwy ei hagenda Gwaith Teg – sy’n hanfodol i sicrhau mwy o bŵer a rheolaeth i weithwyr ledled Cymru.

“Mae’r pwerau y byddai’r Bil yn eu rhoi i San Steffan dros ddatblygu economaidd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bygwth datganoli ac yn codi’r potensial i’r grantiau bloc priodol cael eu torri.”

Gwnaeth Owen Reidy, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Pwyllgor Gogledd Iwerddon Cyngres Undebau Llafur Iwerddon (NIC-ITUC), y pwynt canlynol: “Ar ôl cefnogi datblygiad y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon dros flynyddoedd lawer, rydym yn pryderu’n arbennig am sut y bydd y Bil hwn yn cael effaith negyddol ar ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon ac yn peryglu’r Cytundeb Belfast/Gwener y Groglith. Mae’r ymgais i ddiystyru Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon drwy’r Bil hwn unwaith eto yn codi’r posibilrwydd annerbyniol o ffin galed ar ynys Iwerddon.

“Mae’r Bil hwn yn bygwth y Ddeddf Hawliau Dynol yn benodol gan dorri Cytundeb Gwener y Groglith a’r Protocol. Mae’n frawychus i Ddeddf sy’n diogelu hawliau sylfaenol ein holl aelodau gael ei thanseilio fel hyn gan Lywodraeth y DU. Rydym yn ofni bod hyn yn cynrychioli dechrau ymosodiad parhaus ar y Ddeddf Hawliau Dynol a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol y byddwn yn ei wrthwynebu’n gryf.

“Rydym hefyd yn pryderu y gallai’r Bil ddiystyru pwerau datganoledig Stormont dros ddeddfwriaeth Cyflogaeth, gan fygwth hawliau gweithwyr sy’n wahanol, a byddem yn dadlau, yn well.”

Cwblhaodd Ms Foyer, Ms Taj a Mr Reidy eu datganiad ar y cyd gyda galwad ar y gweinyddiaethau datganoledig yng Nghaerdydd, Caeredin a Belfast i barhau i wrthwynebu’r Bil hwn.

“Mae’r Bil hwn yn paratoi’r ffordd ar gyfer dadreoleiddio ac ymwahanu pellach oddi wrth hawliau, amddiffyniadau a safonau presennol. Ni allwn ond tybio bod Llywodraeth y DU yn paratoi i negodi cytundebau masnach a fyddai’n gwanhau amddiffyniadau i’n haelodau ac a fyddai’n gadael ein gwasanaethau cyhoeddus yn agored i niwed.

“Os oes gan Lywodraeth y DU unrhyw barch tuag at ddatganoli yna caiff y Bil ei dynnu’n ôl.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle