Y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru yn buddsoddi mewn technoleg newydd ar gyfer yr hydref

0
524

Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn defnyddio technoleg a dyfeisiadau newydd a chreadigol i helpu i gadw’r gwasanaethau rheilffyrdd i redeg yn yr hydref.

Mae’r hydref yn dymor anodd i’r diwydiant rheilffyrdd ar draws y DU oherwydd amodau tywydd gwael sy’n gallu difrodi cledrau a threnau, gan leihau’r nifer y gwasanaethau sydd ar gael.

Drwy weithio’n agos mewn partneriaeth ers dechrau’r flwyddyn, mae’r ddau sefydliad wedi creu nifer o gynlluniau allweddol i sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu parhau i symud.

Yn eu plith, mae camerâu Adolygiad Fideo Clyfar Awtomataidd (AIVR) ar flaen y trenau yn gallu mapio tua mil o filltiroedd o gledrau yng Nghymru mewn pedair wythnos yn unig. Caiff y data ei fwydo i Network Rail er mwyn iddynt allu targedu ardaloedd problemus yn gynt, gan leihau’r risg o goed yn taro, o weddillion yn rhwystro rheilffyrdd, o arwyddion yn cael eu cuddio ac o ddifrod i olwynion.

Mae Network Rail hefyd yn defnyddio dronau i helpu gyda’r gwaith, ac maent yn trin cledrau gyda rhaglen newydd o dechnoleg plasma. Mae PlasmaTrack yn dechnoleg gynaliadwy newydd, sy’n cael ei defnyddio i lanhau a sterileiddio cledrau. Mae plasma yn cael ei greu o foltedd uchel a nwy cywasgedig i gymhwyso egni i’r cledrau, sy’n cael gwared ar halogion megis ocsideiddiad a gweddillion dail mewn modd thermol.

Yn ogystal â’r buddsoddiad hwn mewn technoleg newydd, mae TrC wedi cael stoc o olwynion ychwanegol ar gyfer trwsio trenau, a bydd gan Network Rail dimau sy’n ymateb yn gyflym ar y cledrau drwy’r amser.

Cafwyd hydref llwyddiannus y llynedd (2019), pryd gwnaeth TrC fuddsoddi llawer mewn Teclynnau Diogelu Olwynion ar chwarter eu trenau, a thrwy hynny weld 57% o ostyngiad yn y difrod ac yn nifer y trenau oedd angen eu trwsio.

 

Plasma 1

 

Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae’r hydref yn dymor anodd i’r diwydiant rheilffyrdd ledled y DU oherwydd amodau tywydd gwael a’r effaith mae hyn yn gallu ei chael ar ein cledrau a’n trenau.

“Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yn Network Rail i sicrhau ein bod yn defnyddio’r dechnoleg fwyaf diweddar, gan gynnwys camerâu AIVR ar ein trenau yn ogystal ag olwynion ychwanegol newydd fel ein bod yn gwbl barod eleni.

“Y llynedd, drwy osod Teclynnau Diogelu Olwynion ar ein trenau, gwelsom ostyngiad o 57% yn y difrod ac yn y trenau oedd angen eu trwsio. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn golygu bod ein diwydiant yn wynebu mwy o risgiau a heriau sy’n gysylltiedig â’r tywydd, ac mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy yn TrC.”

Ychwanegodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail yng Nghymru:

“Mae’r hydref yn dymor heriol i’r diwydiant rheilffyrdd cyfan, ond yn enwedig yma yng Nghymru a’r Gororau. Rydyn ni’n gweld mwy nag erioed o stormydd a thywydd eithafol. Mae’r rheini’n gallu cael effaith ddinistriol ar y rheilffordd ac arwain at oedi i deithwyr.

“Dyna pam mae Network Rail a’n cydweithwyr yn Nhrafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agosach nag erioed i sicrhau ein bod yn barod am fisoedd yr hydref. Byddwn ni’n cynllunio bron i flwyddyn ymlaen llaw ar gyfer yr hydref. Rydyn ni wrthi drwy’r amser yn addasu’r technolegau arloesol a ddefnyddiwn i sicrhau ein bod yn gallu cadw teithwyr yn ddiogel a’u bod yn gallu parhau i symud drwy gydol y tymor.”

Dywedodd Anthony Smith, Prif Weithredwr Transport Focus, sef y corff gwarchod annibynnol:

“Aros yn ddiogel fydd y prif bryder i lawer o’n teithwyr yr hydref yma, ac mae dibynadwyedd yn parhau’n flaenoriaeth bwysig. Mae pobl yn disgwyl i wasanaethau redeg ar amser, felly mae’n bwysig i’r rheilffordd fod yn gallu ymdopi ag unrhyw heriau a ddaw yn yr hydref. Rydyn ni’n croesawu’r bartneriaeth hon a’r defnydd o dechnolegau newydd i helpu i gadw pobl i symud, i leihau oedi ac i osgoi tyrfaoedd sy’n golygu ei bod yn anodd cadw pellter cymdeithasol.”

(mae mwy o wybodaeth a lluniau ar gael ar wefan PlasmaTracks - https://www.plasmatrack.co.uk/)


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle