Prifysgol Abertawe’n un o fannau gwyrdd gorau’r wlad

0
571

Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg enillwyr Gwobr y Faner Werdd unwaith eto eleni. Dyma arwydd rhyngwladol sy’n dynodi parc neu fan gwyrdd o safon.

Oherwydd gwaith caled tĂŽm tiroedd y Brifysgol, bydd y faner yn parhau i chwifio ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae.

Yn Ă´l yr elusen Cadwch Gymru’n Daclus, mae’r wobr yn cydnabod cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac ymrwymiad i gynnig mannau gwyrdd o safon. 

Lleolir safle hanesyddol y Brifysgol ym Mharc Singleton mewn parcdir hyfryd ac mae’r tiroedd hirsefydlog yn cynnig amrywiaeth o gynefinoedd, gyda glaswelltiroedd, coetiroedd aeddfed, ardaloedd sydd wedi’u plannu a phyllau, gan helpu i gefnogi bywyd gwyllt helaeth. 

Mae Campws y Bae, sydd gyferbyn â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn, yn cynnig cynefinoedd glan mĂ´r a digon o le i fynd ar grwydr. 

Dywedodd y rheolwr tiroedd, Paul Edwards, fod ei dĂŽm yn falch o sicrhau’r anrhydedd eto. 

Meddai: â€œNawr, yn fwy nag erioed, mae ein mannau awyr agored yn hanfodol at ddibenion cadw pellter cymdeithasol, yn ogystal â chynnig amgylchedd croesawgar y gellir ymlacio ynddo yn ystod cyfnod mor heriol ac ingol. 

“Rydym bob amser yn sicrhau bod cynaliadwyedd wrth wraidd popeth a wnawn ac yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr er mwyn sicrhau y cynhelir y tiroedd mewn modd mor ecogyfeillgar â phosib.” 

Meddai’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: â€œMae ein tiroedd yn rhan hanfodol o’r hyn sydd mor arbennig am ein prifysgol. Maent yn chwarae rĂ´l bwysig wrth hybu lles ein staff a’n myfyrwyr fel ei gilydd ac rydym yn ymfalchĂŻo yn y ffaith eu bod yn gartref i fywyd gwyllt yn ogystal â phobl. 

“Mae sicrhau bod ein hamgylchoedd yn cael eu rheoli’n dda, a bod cynaliadwyedd wrth wraidd pob datblygiad, ymysg prif flaenoriaethau ein Prifysgol. 

“Rydym yn falch o fod ymysg 10 prifysgol fwyaf ecogyfeillgar y DU, diolch i waith caled cydweithwyr ymroddedig fel aelodau ein tĂŽm rheoli tiroedd.”  

Mae cyfanswm o 224 o barciau a mannau gwyrdd ledled y wlad wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. 

Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd yn gynnar yn yr hydref i farnu safleoedd yn erbyn wyth maen prawf caeth, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol a chyfraniad cymunedol. 

Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd Gwobr y Faner Werdd ar ran Cadwch Gymru’n 

Daclus: ×…“Mae’r pandemig wedi dangos bod parciau a mannau gwyrdd o safon yn hollbwysig i’n cymunedau. Maent wedi bod yn hafan ar garreg drws i lawer ohonom, gan hybu ein hiechyd a’n lles.” 

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am diroedd Prifysgol Abertawe

Ceir mwy o fanylion am enillwyr eleni drwy fynd i wefan Cadwch Gymru’n Daclus


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle