Trafnidiaeth Cymru yn dathlu llwyddiant yn y Gwobrau Trafnidiaeth

0
500

Roedd Trafnidiaeth Cymru yn falch iawn o gael cydnabyddiaeth yn y Gwobrau Trafnidiaeth yng Nghymru, lle daeth i’r brig mewn dau gategori.

Trafnidiaeth Cymru, y gweithredwr trafnidiaeth a gymerodd yr awenau i redeg rhwydwaith Cymru a’r Gororau ddwy flynedd yn ôl i’r mis yma, enillodd y Wobr Rhagoriaeth mewn Technoleg ac Arloesi a’r Wobr Prentis y Flwyddyn.

Roedd cystadleuwyr o bob cwr o Gymru yn cystadlu am 11 gwobr mewn pob math o gategorïau gwahanol, a’r rheini’n amrywio o Weithredwr Coets y Flwyddyn i Dîm Trafnidiaeth y Flwyddyn.

Joshua Lane, prentis fflyd, gafodd ei enwi’n brentis y flwyddyn, a daeth tîm cynllunio gweithredol Trafnidiaeth Cymru i’r brig am eu camerâu Adolygiad Fideo Clyfar Awtomatig.

Dywedodd Rick Fisher ac Adam Terry o Dîm Cynllunio Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni wrth ein bodd i ni ennill y wobr Rhagoriaeth mewn Technoleg ac Arloesi heno.

“Mae arloesedd yn un o’n hegwyddorion craidd yng Ngwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru wrth i ni geisio darparu’r gwasanaeth gorau posib i’n cwsmeriaid.

“Mae ein camerâu AIVR yn newid y ffordd rydyn ni’n mapio ein rhwydwaith fel y gallwn fynd i’r afael â phroblemau’n gynt a chadw ein cwsmeriaid i symud yn ddiogel.

“Hoffem ddiolch i’n partneriaid arloesi yn One Big Circle am eu gwaith gyda ni ar y prosiect hwn, yn ogystal â’n timau gweithredol a’n cydweithwyr yn Network Rail.”

Mae Rowan Phillips, Rheolwr Peirianneg Fflyd, wedi bod yn gweithio gyda Joshua Lane drwy gydol ei brentisiaeth. Dywedodd:

“Rydyn ni mor falch fod Josh wedi ennill y wobr am brentis y flwyddyn.

“Mae prentisiaethau mor bwysig i weledigaeth Trafnidiaeth Cymru. Drwy fuddsoddi yn ein pobl ifanc rydyn ni’n cyfrannu at lesiant cenedlaethau’r dyfodol.

“Ac yntau newydd gwblhau trydedd flwyddyn ei brentisiaeth Peirianneg Tyniant Trên a Stoc Rholio, mae Joshua wedi dangos gallu gwirioneddol, proffesiynoldeb ac ymrwymiad i’n gwerthoedd – mae hefyd yn awchu am wybodaeth!”

Hefyd, hoffai Trafnidiaeth Cymru ganmol Tianna Morgan-Seivwright, a lwyddodd i gyrraedd y rhestr fer derfynol yng nghategori Prentis y Flwyddyn yng ngwobrau Women in Rail ddiwedd mis Medi.

Mae’r llwyddiannau’n brawf o waith caled llawer o bobl ar draws y sefydliad, ac maen nhw’n arwydd clir bod nodau TrC i fuddsoddi mewn technoleg newydd ac yn ei raglen i brentisiaid yn talu ar eu canfed.

Roedd hefyd yn cynnwys gwobr cydnabyddiaeth arbennig ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Cludiant a Logisteg y Gadwyn Gyflenwi, a gyflwynwyd gan Marie Daly, Cyfarwyddwr Pobl ac Ymgysylltu TrC.

Dywedodd Liz Brookes, Sylfaenydd y Gwobrau Trafnidiaeth yng Nghymru, Grapevine Event Management:

“Er nad oedd hi’n bosib i ni ddathlu’n bersonol â phawb, rydw i mor falch ein bod ni wedi gallu cydnabod y cwmnïau anhygoel yma sy’n cadw Cymru i symud, yn enwedig ar ôl blwyddyn mor anodd.

“Llongyfarchiadau enfawr i’r holl enillwyr, ac i bawb ar y rhestr fer sydd hefyd yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith caled a’u llwyddiannau.

“Diolch i noddwyr y digwyddiad eleni – gan gynnwys ein prif noddwr, Keolis Amey Wales – am ei gefnogaeth eleni i gynnal y gwobrau ar-lein, a’n helpu ni i dynnu sylw at y diwydiant a’r bobl sy’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod busnes yn rhedeg yn llyfn yng Nghymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle