Mae TUC Cymru yn dweud bod cynllun Llywodraeth y DU i ddileu Cronfa Ddysgu’r Undebau (ULF) yn Lloegr yn cael gwared ar gymorth i weithwyr ar adeg pan fo tystiolaeth yn dangos bod ei hangen fwyaf

0
428
Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary

Mae TUC Cymru yn dweud bod cynllun Llywodraeth y DU i ddileu Cronfa Ddysgu’r Undebau (ULF) yn Lloegr yn cael gwared ar gymorth i weithwyr ar adeg pan fo tystiolaeth yn dangos bod ei hangen fwyaf

  • Cynlluniau Llywodraeth y DU i roi’r gorau i ariannu Cronfa Ddysgu Undebau er gwaethaf tystiolaeth bod y galw am ddysgu yn y gweithle trwy undebau wedi cynyddu a’r ffaith bod angen dysgu trwy undebau yn fwy nag erioed yn yr argyfwng Covid presennol
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu cefnogaeth barhaus i ddysgu trwy undebau yng Nghymru

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynigion i ddileu Cronfa Ddysgu’r Undebau (ULF) yn Lloegr o fis Mawrth 2021. Heddiw, mae’r TUC wedi lansio ymgyrch i achub y gronfa o dan faner #SaveUnionLearning. Yn y cyfamser, mae Ken Skates, y Gweinidog dros yr economi, trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF).

Mae dysgu undebau ledled y DU yn unigryw – mae’n gweithio gydag unigolion a chyflogwyr i ddarparu dysgu yn y gweithle a chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd. Y llynedd, cefnogodd WULF dros 7000 o weithwyr i ddysgu, ac ers mis Ebrill eleni mae nifer y dysgwyr wedi codi’n sydyn. Mae’r cynnydd yn deillio’n bennaf o’r ffordd y mae argyfwng Covid wedi effeithio ar weithwyr. Mae TUC Cymru wedi nodi cynnydd mewn ymgysylltiad gan weithwyr sydd ar furlough, y rhai sydd wedi cael neu sydd dan fygythiad o gael eu diswyddo a gweithwyr allweddol sy’n ceisio cymorth dysgu i helpu eu hiechyd meddwl a’u lles.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Mae prosiectau dysgu undebau yn canolbwyntio ar ymgysylltu â gweithwyr anodd eu cyrraedd a gweithwyr sy’n agored i niwed a’u cefnogi’n ôl i ddysgu. Maent hefyd yn chwarae rhan enfawr wrth gynorthwyo gydag adferiad economaidd, fel y maent wedi’i wneud mewn llawer o ddirwasgiadau a dirywiadau economaidd blaenorol. Felly, mae’r penderfyniad hwn yn Lloegr nid yn unig yn peri pryder i bobl sy’n gweithio, mae’n wrthgynhyrchiol i gynlluniau’r DU i ‘adeiladu’n ôl yn well’. Er nad yw cynnig Llywodraeth y DU yn effeithio’n uniongyrchol ar ddysgwyr undebau yng Nghymru, mae TUC Cymru yn cefnogi ein cydweithwyr yn Lloegr ac yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ailfeddwl. Mae gan WULF hanes balch o 21 mlynedd yng Nghymru ac mae’r cynnydd yn nifer y dysgwyr WULF yng Nghymru ers dechrau’r pandemig hwn yn profi bod arnom angen rhaglenni sy’n cefnogi ailhyfforddi, nawr yn fwy nag erioed. Mae’n dangos awydd clir gan weithwyr i gymryd rheolaeth dros eu datblygiad gyrfa eu hunain.”

Ail-gadarnhaodd Ken Skates, y Gweinidog dros yr economi, trafnidiaeth a Gogledd Cymru gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yr wythnos diwethaf. Ynglŷn â’r newyddion siomedig am gynlluniau Llywodraeth y DU i ddileu Cronfa Ddysgu’r Undebau (ULF) yn Lloegr o fis Mawrth 2021, roedd yn gyflym i dynnu sylw at y ffaith “nad yw hyn yn wir yng Nghymru”.

Mewn datganiad ysgrifenedig ddiwedd mis Ebrill eleni, dywedodd y Gweinidog, “Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF), gyda chymorth TUC Cymru, fel cyfrwng i undebau llafur ddarparu atebion sgiliau a chymorth uniongyrchol i weithwyr yn ystod argyfwng Coronafeirws (Covid -19).” Dangosodd Llywodraeth Cymru eu gwerthfawrogiad ymhellach o’r hyn y gall WULF ei gyflawni i weithwyr yng Nghymru ym mis Gorffennaf pan gyhoeddodd y Gweinidog estyniad i WULF fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithwyr yn ystod argyfwng Covid-19.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle