TUC Cymru yn ymateb i gyhoeddiad cyfnod clo Llywodraeth Cymru

0
437
Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad heddiw ar gyfnod clo llym, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj:

“Mae Llywodraeth Cymru yn iawn i weithredu nawr er mwyn ceisio cyfyngu’r niwed i fywydau a bywoliaethau pobl o’r firws dros y misoedd nesaf dros y gaeaf.

Ein blaenoriaeth yw cyfyngu’r effaith ariannol ar weithwyr Cymru ac rydym wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau’r canlyniad gorau posibl.

Ond mae angen i Lywodraeth y DU weithredu nawr i ddarparu cymorth cyflog boddhaol. Yn gynharach eleni dywedodd Rishi Sunak y byddai’n gwneud ‘beth bynnag y mae’n ei gymryd’ i gefnogi pobl drwy’r argyfwng – ac mae’n hanfodol ei fod yn cyflawni’r addewid hwnnw nawr.

Yr ydym yn poeni’n fawr nad yw cefnogaeth arfaethedig Llywodraeth y DU i weithwyr yn cyrraedd yr hyn a wnaed yn ystod y don gyntaf ac y gallai gyfyngu ar yr hyn y gellir ei wneud i atal lledaeniad y firws. Rydym yn ailadrodd ein galw ar Lywodraeth y DU i weithredu nawr i sicrhau bod:

  • Gweithwyr yn derbyn 80% o’u cyflogau drwy’r Cynllun Cymorth Gwaith lle mae busnesau’n cael eu gorfodi i gau.
  • Cwmnïau sy’n cael eu taro gan y cyfyngiadau newydd ond sy’n gallu aros yn agored yn gyfreithiol yn gallu defnyddio cynllun gweithio amser byr, gyda chyfraniadau llawer llai gan gyflogwyr.
  • Gweithwyr hunangyflogedig a llawrydd sy’n cael eu hanwybyddu yn cael cymorth ychwanegol.

Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio i sicrhau bod cefnogaeth briodol i bobl sy’n agored i niwed i’w galluogi i amddiffyn eu hunain. Mae hefyd angen system effeithiol ar gyfer gwarantu nad yw pobl y gofynnir iddynt ynysu ar eu colled yn ariannol, ac eglurder a chyfeiriad pellach ynghylch sut y caiff y firws ei reoli y tu hwnt i’r cyfnod clo hwn. Mae angen i ni gefnogi gweithwyr sydd wedi bod ar y rheng flaen ers mis Mawrth a sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i gynnal eu hiechyd a lles.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle