Hyfforddiant ar-lein Cyswllt Ffermio yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i ffermwr o Sir Gâr er mwyn datblygu ei busnes

0
638

Mae Elena Davies, merch fferm a aned yn Sir Gâr, yn disgrifio ei hun fel ffermwr ‘ymarferol’.  Mae Elena eisoes yn rhedeg busnes llwyddiannus fel contractwr fferm hunangyflogedig, a gyda chymorth Cyswllt Ffermio, mae hi bellach yn buddsoddi yn ei datblygiad proffesiynol ei hun.   Diolch i ystod gynyddol Cyswllt Ffermio o opsiynau dysgu ‘o bell’, gyda phob un ohonynt naill ai wedi’i ariannu’n llawn neu hyd at 80%, mae hi wedi gallu astudio nifer o gyrsiau sgiliau busnes ac mae’n gobeithio y bydd hynny’n ei chynorthwyo i ddatblygu ei busnes.

Mae Elena wedi adeiladu sylfaen o gwsmeriaid ffyddlon yn yr ardal leol ac mae galw mawr am ei gwasanaethau o flwyddyn i flwyddyn, yn bennaf ar gyfer rhewfrandio gwartheg a gwasanaethau godro yng Ngorllewin Cymru.  Mae hi hefyd yn fedrus wrth yrru peiriannau fferm trwm, gan ddweud ei bod yn mwynhau pob agwedd ar ffermio a chael ei herio’n gorfforol ac yn feddyliol.

Enillodd Elena Ddiploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr ar gampws Gelli Aur, cyn symud ymlaen i Brifysgol Harper Adams i astudio’r Diploma Cenedlaethol Uwch. Roedd ei chwrs yn cynnwys blwyddyn allan gydag un o asiantaethau’r llywodraeth yng Nghaerdydd lle bu’n mwynhau ei chyfnod ar ‘ochr arall’ y diwydiant yn gweithio fel swyddog iechyd anifeiliaid.

“Rydw i wedi bod eisiau dilyn gyrfa mewn amaeth erioed, ond fy uchelgais pennaf oedd adeiladu enw da i mi fy hun fel contractwr hunangyflogedig,” meddai Elena.

Erbyn hyn, yn ei 30au hwyr, mae ganddi ddigon o waith contractio, ond mae’n credu mai dyma’r amser i ddechrau cynllunio at y dyfodol.

“Mae rhewfrandio hyd at 10,000 o wartheg y flwyddyn a chwblhau tasgau trwm yn iawn pan ydych chi’n ddigon heini i wneud hynny, ond diolch i raglen ddysgu a datblygu gydol oes Cyswllt Ffermio, rydw i bellach yn dysgu sgiliau newydd ac yn datblygu mwy o wybodaeth ynglŷn â’r ochr weinyddol ac ariannol hefyd.”

Mae Elena newydd gwblhau cwrs dysgu digidol ‘Gofalu am eich Busnes eich hun’ sy’n cynnwys dau weithdy a grëwyd ac a gyflwynwyd gan dîm hyfforddi’r IAgSA (Sefydliad Ysgrifenyddion Amaethyddol a Gweinyddwyr) ac a ddarperir gan Simply the Best, sef un o gwmnïau hyfforddi ymgynghorol cymeradwy Cyswllt Ffermio.

Roedd y cwrs, a oedd yn cynnwys dau weithdy deuddydd, yn trafod cwblhau ffurflenni TAW a chyfrifon diwedd blwyddyn yn ogystal â gweithio gyda chostau sefydlog ac amrywiol, elw gros a phroffidioldeb. Roedd Elena yn gallu dilyn y cwrs cyfan ar Zoom o’i swyddfa yn ei chartref.

“Roedd y cwrs yn seiliedig ar werslyfr ac yn cael ei ariannu gyda chymhorthdal o 80%. Roedd y cwrs yn llawn gwybodaeth, a gyda dim ond pedwar myfyriwr a thiwtor, roedd digonedd o amser i ofyn eich cwestiynau eich hunain.

“Er bod y pynciau yr oeddem yn eu hastudio’n gyfarwydd i mi gan fy mod yn rhedeg fy musnes hunangyflogedig fy hun, fe ddysgais nifer o sgiliau newydd, ac ymhen amser, rwy’n gobeithio cynnig rhai o’r gwasanaethau gweinyddol hyn i ffermwyr eraill hefyd,” meddai Elena.

Mae llawer o gyrsiau busnes, TGCh, ariannol, marchnata ac iechyd anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn cael eu darparu’n ddigidol ar hyn o bryd.

“Mae Covid 19 wedi cyfyngu ar gymaint o’r pethau yr ydym ni’n eu cymryd yn ganiataol fel arfer, ond roeddwn i’n gweld y dull yma o weithio ‘o bell’ yn ffordd gyfleus a manteisiol o wella fy ngwybodaeth a’m sgiliau, yn enwedig ar gyfer sgiliau’n seiliedig ar waith swyddfa,” meddai Elena.

Erbyn hyn, mae Elena yn gefnogwr brwd dros ddysgu o bell, ac mae hi eisoes wedi dechrau cynllunio ei cham nesaf yn ei datblygiad personol.

“Rwy’n bwriadu gwneud cais am hyfforddiant cyfrifiadurol Cyswllt Ffermio ‘o bell’ gan fy mod i’n awyddus i roi fy ngwybodaeth newydd ar waith a dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiaduron mewn modd mwy effeithlon, er mwyn gallu darparu mwy o wasanaethau gweinyddol neu ariannol ar-lein.”

Mae Elena hefyd yn bwriadu ymgymryd â rhai o fodiwlau e-ddysgu Cyswllt Ffermio a ariennir yn llawn ac mae’n bwriadu cofrestru ar gyfer cyrsiau iechyd anifeiliaid sy’n gysylltiedig â gwartheg.

“Mae e-ddysgu yn gysyniad newydd i mi, ond rwy’n methu aros i ddechrau adeiladu ar fy ngwybodaeth gan ei fod yn ffordd o astudio y gallaf ei wneud ar fy nghyflymder fy hun o’m cartref, sy’n apelio’n fawr.”

Bydd pob cwrs neu fodiwl e-ddysgu y bydd Elena yn eu cwblhau drwy Cyswllt Ffermio yn cael eu hychwanegu at ei chofnod ‘Storfa Sgiliau’ diogel ar-lein, gan gadw cofnod o’i datblygiad proffesiynol parhaus ar bob cam o’r ffordd. Mae hi hefyd yn bwriadu defnyddio Storfa Sgiliau i’w helpu i ddiweddaru ei cv wrth iddi gwblhau mwy o gyrsiau a datblygu mwy o sgiliau.

Mae’r cyfnod ymgeisio sgiliau presennol ar agor nawr a bydd yn cau am 07:00 ddydd Gwener, 30 Hydref 2020. I gael rhagor o wybodaeth am sgiliau, hyfforddiant a Storfa Sgiliau Cyswllt Ffermio ewch i llyw.cymru/cyswlltffermiosgiliauhyfforddiant

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle