Pob lwc i’r diddanwr a’r actor o Harry Potter

0
543

Pob lwc i’r diddanwr a’r actor o Harry Potter, Ron Tapping, sy’n golgi cerdded 70km a rei benblwydd yn 70 oed i godi arian i Ysbyty Llwynhelyg.

Bwriad Ron, sy’n byw yn Aberdaugleddau, yw cerdded llwybr cylch i Ysbyty Llwynhelyg ac yn ô lar ei benblwydd ar 17 Tachwedd, gan ddechrau am 2am a gorffen yn hwyr y prynhawn.

Mae wedi cael gyrfa ddiddorol, gan serennu fel Death Eater yn ffilmiau Harry Potter ac ymddangos mewn nifer o ffilmiau eraill yn cynnwys Half Light gyda Demi Moore. Mae Ron hefyd wedi diddanu fel cantor a cherddor a longau mordeithio.

Meddai ei fod am godi arian ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg oherwydd y gwaith gwych sy’n digwydd yno bob dydd.

A gan fod ei ferch, Kat, hefyd yn gweithio i’r GIG yn Ysbyty Peterfield yn Hampshire, roedd Ron am roi rhywbeth yn ôl.

“Rwy’n 69 oed ac yn heini ac am osod her i fy hun,” meddai Ron.

“Byddaf yn dathlu fy mhenblwydd yn 70 ar 17 Tachwedd, felly bydd cerdded 70km ar y diwrnod yn gyflawniad arbennig i mi a bydd yn ddydd i’w gofio!

“Rwyf ar 60,000 o gamau sy’n tua 28 milltir, felly gobeithiaf allu gwneud y daith mewn tua 12 i 14 awr.

“Rwyf wedi gosod targed o godi £500 ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg gan fod gen i gymaint o barch tuag atynt yno.”

Meddai Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewellyn, bod yr elusen ac Ysbyty Llwynhelyg yn ddiolchgar iawn i Ron am ei gefnogaeth.

“Mae ymdrechion codi arian gan unigolion fel Ron yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau cleifion a staff y Gwasanaeth Iechyd yn lleol.

“Mae syniadau, heriau ac ymdrechion pobl i godi arian yn anhygoel.

“Pob lwc i Ron wrth iddo gerdded 70km, a phenblwydd hapus!”

Os hoffech gyfrannu at darged Ron, ewch i: http://www.justgiving.com/Ronald-Tapping


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articlePolice appeal following Llanelli Assault
Next article70km in one day for 70th birthday
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.