Teulu Ffermio Llanwrda Yn Codi £ 10,000

0
513
Yn y llun mae Meirion a Sue a’u meibion Chris, Aled a Sion ym mhriodas Chris ym mis Gorffennaf 2018.

Mae teulu fferm o Lanwrda wedi gosod her o gasglu £10,000 mewn blwyddyn er cof am ŵr a thad annwyl iawn.

Mae Sue Thomas yn codi arian i Uned Gofal Dwys Ysbyty Glangwili i ddweud diolch am y gofal gafodd ei gŵr Meirion, a fu farw o sepsis ym mis Mawrth yn 57 oed.

Mae hi’n gwneud hyn gyda chefnogaeth eu tri mab sef Chris, 30, rheolwr gwerthiant; Aled, 26, cynrychiolydd gwerthu a Sion, 20 sy’n fyfyriwr, o’u cartref sef fferm eidion a defaid 252 erw.

Mae’r teulu wrthi’n trefnu blwyddyn o ymdrechion codi arian, gan ddechrau ym mis Tachwedd gyda’r tri mab yn tyfu mwstas ar gyfer Movember.

Meddai Sue, sy’n ariannydd mewn banc ac yn gwerthu blodau: “Mae’r teulu cyfan wedi profi tor-calon gan farwolaeth fy ngŵr Meirion. Roedd yn ŵr llawn cariad ac yn dad llawn gofal o’i feibion.

“Yn ogystal a’i deulu, roedd yn meddwl y byd o’i fferm a’r diwydiant amaethyddol. Hyd yn oed pan gydiodd y sepsis, daliodd ati i wyna nes i’r ambiwlans gyrraedd.

“Aed â Meirioni Ysbyty Glangwili, i’r Uned Gofal Dwys, lle y cafodd y gofal mwyaf arbennig y gallai unrhyw un fod wedi dymuno amdano. Gwnaeth y meddygon a’r nyrsys bopeth yn eu gallu, ond cymerodd y sepsis drosodd.

“Rydyn am godi arian i’r Uned Gofal Dwys i ddweud diolch am bopeth. Byddwn bob amser yn wirioneddol ddiolchgar am y gofal a gafodd.”

Meddai Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewellyn: “Dyma fwriad ffantastig gan y teulu Thomas, i gynnal blwyddyn gyfan o ymdrechion codi arian. Mae’r elusen a’r Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Glangwili yn ddiolchgar iawn.

“Mae codi arian yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cleifion a staff y gofal iechyd ac mae ymdrechion teuluoedd lleol fel y Thomasiaid i helpu yn rhyfeddol.

“Mae pob ceiniog o’r rhoddion i’r elusen yn mynd yn uniongyrchol tuag at wella bywydau yn y Gwasanaeth Iechyd yn y tair sir.”

Mae’r teulu wrthi’n cynllunio nifer o ddigwyddiadau codi arian yn y flwyddyn tan fir \tachwedd 2021, gan gynnwys her Tri Chopa Cymru; noson o flodau a chân; a noson o adloniant a pherfformiadau amrywiol gydag ocsiwn.

Maen nhw eisoes wedi codi £2,929 o’u targed o £10,000. Os hoffech gyfrannu, ewch i: http://www.justgiving.com/Sue-Thomas26.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle