Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cefnogi addysgwyr yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru 2020

0
398
OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn nodi Wythnos Hinsawdd Cymru drwy rannu cyfres o adnoddau digidol ag addysgwyr ar themâu Deall Newid yn yr Hinsawdd, Addasu a Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd. 

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru wedi cael ei threfnu gan Lywodraeth Cymru a bydd yn cynnwys cyfres o gynadleddau digidol a digwyddiadau rhithiol am ddim rhwng 2 Tachwedd a 6 Tachwedd. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys siaradwyr gwadd o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus. Byddant yn rhannu eu harbenigedd ac yn rhoi enghreifftiau ymarferol o sut gall unigolion a sefydliadau helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng newid hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030 a chyfrannu at dargedau ehangach i leihau allyriadau carbon. Mewn ymateb i hyn, roedd yr Awdurdod wedi cyhoeddi adroddiad y llynedd a oedd yn rhoi manylion y camau a oedd wrthi’n cael eu cymryd ac ar fin cael eu cymryd, yn ogystal â meysydd posibl eraill y gellid eu datblygu.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae’r digwyddiad dros yr wythnos yn gyfle ardderchog i unigolion ac i sefydliadau ystyried a dysgu o’r arferion gorau sydd ar gael ar hyn a lled y wlad.

“Hyd yma, mae’r gwaith yn yr Awdurdod i gyrraedd ei darged wedi bod yn cael ei wneud mewn amrywiaeth eang o feysydd, o bolisi cynllunio a thrafnidiaeth i ailgylchu a chaffael. Mae hyn yn cynnwys symud tuag at fflyd o geir a faniau sydd ag allyriadau isel, gan gynnwys defnyddio cerbydau trydan; gwneud adeiladau’r cyngor yn fwy gwyrdd a gosod pwyntiau cerbydau trydan mewn safleoedd sy’n cael eu rhedeg gan yr Awdurdod; a newid ffocws y Gronfa Datblygu Cynaliadwy i flaenoriaethu prosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned i gyfrannu at ostwng carbon.”

Mae prosiectau parhaus eraill sydd wedi’u dylunio i storio carbon yn well drwy’r Parc yn cynnwys yr ymgyrch Creu Mwy o Ddolydd, y cynllun Ffiniau Traddodiadol a’r prosiect Llwybrau, Planhigion a Pheillwyr, sydd eisoes wedi cwblhau cynllun peilot llwyddiannus ar hyd darn o Lwybr yr Arfordir rhwng Niwgwl ac Abereiddi.

Mae Pwyllgor Ieuenctid y Parc Cenedlaethol sydd newydd gael ei greu hefyd yn cymryd rhan yn ymgyrch OutRight 2020 UNICEF, sy’n canolbwyntio ar effaith newid hinsawdd ar hawliau plant.

Mae cynllun gweithredu Awdurdod y Parc Ymateb i’r Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/wp-content/uploads/2020/08/Cynllun-Gweithredu-Ymateb-ir-Argyfwng-Newydd-Hinsawdd.pdf.

I weld amserlen lawn digwyddiadau Wythnos Hinsawdd Cymru, ewch i https://waterfront.eventscase.com/CY/walesclimateweek.

Mae dolenni ac adnoddau i addysgwyr, gan gynnwys deunyddiau sy’n benodol ar gyfer sir Benfro o brosiect Cymunedau Arfordirol yn Addasu gyda’i Gilydd (CCAT) Fforwm Arfordir Sir Benfro, ar gael yn www.facebook.com/PCNPAYourPark a @PCNPAEducation ar Twitter.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle