Mae cwmni gweithgynhyrchu o Ynys Môn, Joloda Hydraroll, yn buddsoddi yn ei safle yng Ngaerwen, gan greu swyddi newydd a diogelu swyddi eraill, diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r cwmni’n arbenigo mewn llwytho nwyddau ar gyfer cargo aer yn awtomatig, cynwysyddion cludiant ffyrdd a morgludiant, ac mae’n allforio i wledydd ledled y byd.
Mae’r cyllid y mae Joloda Hydraroll wedi’i dderbyn gan Gronfa Dyfodol yr Economi yn ei helpu i greu swyddi newydd a sicrhau ei ddyfodol ar yr ynys, tra bo’r Gronfa Cadernid Economaidd wedi diogelu ei weithlu drwy bandemig y coronafeirws.
Mae’r cwmni’n buddsoddi £240,000, sy’n cynnwys £80,000 gan Lywodraeth Cymru, i ehangu dwy agwedd ar ei weithrediadau yng Ngaerwen, adeiladu parc trelar pwrpasol, ac uwchraddio offer.
Bydd hyn yn creu swyddi newydd gyda’r nod o gynyddu capasiti gweithgynhyrchu 20 y cant, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd a diogelwch.
Mae’r cwmni hefyd wedi derbyn £26,500 gan y Gronfa Cadernid Economaidd i’w helpu i ddelio ag effeithiau pandemig y coronafeirws.
Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n rhan o becyn cymorth Llywodraeth Cymru gwerth dros £1.7 biliwn ar gyfer busnesau, yn rhoi cymorth sylweddol i gwmnïau ledled Cymru ac yn ategu’r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Hyd yma, mae dros 13,000 o fusnesau wedi cael cymorth drwy’r gronfa, gan helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi.
Dywedodd Alec McAndrew, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Joloda Hydraroll: “Cafodd nifer o opsiynau eu hystyried cyn i Joloda Hydraroll fuddsoddi yn Ynys Môn. Un ohonyn nhw oedd peidio â buddsoddi mewn llinellau gweithgynhyrchu yn Ewrop. Gwnaeth y cymorth gan lywodraeth Cymru ein galluogi ni i gyfiawnhau buddsoddi i wella effeithlonrwydd, cynyddu capasiti a lleihau costau. O ganlyniad mae hyn wedi ein galluogi i ddiogelu swyddi a chreu swyddi newydd, a gaiff eu llenwi wrth i’r economi wella.
“Mae Joloda Hydraroll hefyd wedi sicrhau cymorth gan y Gronfa Cadernid Economaidd, a roddodd y dewis inni roi’r rhan fwyaf o’n gweithlu ar Ynys Môn ar ffyrlo, pan gaeodd ein cyflenwyr o ganlyniad i COVID-19.
“Dychwelodd y rhan fwyaf o’r gweithlu i’r safle dim ond tair wythnos ar ôl i’n cyflenwyr ddychwelyd a gallu dechrau ein cyflenwi. Mae wedi ein galluogi i oroesi cyfnod anodd heb leihau ein gweithlu wrth i archebion ddechrau cyrraedd y lefelau cyn COVID.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae’n wych gweld Joloda yn buddsoddi yn ei ddyfodol yng Ngaerwen ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi eu cynlluniau i ehangu, helpu i greu swyddi newydd ac amddiffyn swyddi eraill.
“Mae hwn yn gyfnod hynod heriol, ond mae’r buddsoddiad hwn yn dangos hyder yn yr ardal a’r economi.
“Rwyf hefyd yn falch bod ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi helpu’r cwmni i ddelio â’r heriau a’r pwysau a achosir gan bandemig y coronafeirws. Mae’r Gronfa wedi bod yn hanfodol i filoedd o fusnesau ledled Cymru, gan ddiogelu swyddi a bywoliaethau.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle