Elusen yn gofyn i gymunedau chwalu mur tawelwch ynghylch trais

0
500

Yng nghanol pandemig, mae’r angen i ddiogelu cymunedau a’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol rhag niwed yn fwy nag erioed o’r blaen.  Heddiw, mae elusen Crimestoppers yn lansio ymgyrch newydd sy’n rhoi rhybudd clir na fydd tawelwch yn stopio trais, gan annog pobl i godi eu llais mewn ffordd ddienw er mwyn helpu i achub bywydau.

Mae Crimestoppers yn amlygu cynnydd o 93% er 2012 yn nifer y bobl ifanc dan 16 oed sy’n cyrraedd ysbytai y DU ar ôl dioddef ymosodiad gan gyllell.*  At hynny, amcangyfrifir bod anafiadau a achoswyd gan drais yn costio £13.9 miliwn i GIG Cymru bob blwyddyn, sy’n cynnwys galw ambiwlans allan, gofal brys a derbyniadau i ysbytai**. 

Er bod yr ystadegau iechyd yn peri pryder, mae’r elusen yn nodi nas adroddir wrth yr heddlu am dros hanner yr holl ddigwyddiadau treisgar, ac mae hyn yn eu hatal rhag delio gyda’r broblem.

Nod ymgyrch ‘Ni fydd Tawelwch yn rhoi Stop ar y Trais’ yw chwalu mur tawelwch, gan helpu i adfer y sefyllfa a arferai fodoli mewn perthynas â throseddau treisgar.  Ymateb Crimestoppers yw codi ymwybyddiaeth o effaith trais a chynnig ffordd i unigolion mewn cymunedau i godi eu llais am ddigwyddiadau, cyn neu ar ôl iddynt ddigwydd, ac mewn ffordd hollol ddienw.

Mae Crimestoppers yn gweithio gyda nifer o unedau lleihau trais ar draws y DU er mwyn cynorthwyo dull iechyd y cyhoedd wrth fynd i’r afael â thrais, gan gynnwys hyrwyddo ei gwasanaeth ieuenctid, Fearless.org.

Dywedodd Ella Rabaiotti, Rheolwr Cymru elusen Crimestoppers: 

“Mae trais, yn ei holl wahanol ffurfiau, yn cael effaith sylweddol ar ein cymunedau;  o ddioddefwyr cam-drin domestig i bobl ifanc sy’n cario cyllyll, gall ei effaith donnog gynyddu ofn troseddau, chwalu teuluoedd a gorymestyn ein gwasanaeth iechyd, y mae’n rhaid iddo ddelio gyda’r trawma corfforol ac emosiynol sy’n deillio o hyn.

“Mae dull iechyd y cyhoedd yn cydnabod bod trais yn broblem y mae modd ei hatal ac sy’n gofyn am ymateb ar draws cymdeithas gyfan.  Rydym yn cynorthwyo hyn trwy gyfrwng ymyrraeth gynnar ac addysg er mwyn helpu i atal trais rhag digwydd yn y lle cyntaf.  Rydym yn cydnabod y gallech fod yn agos i drosedd, ond hefyd, eich bod yn dymuno gwneud y peth iawn efallai, gan roi terfyn ar drais yn eich cymuned.  Os ydych chi’n gwybod pwy y gallent fod yn cario arfau neu’n bygwth neu’n gwneud niwed i eraill, gallwch ddweud wrthym mewn ffordd hollol ddienw.”

Dywedodd Jon Drake, Cyfarwyddwr Uned Atal Trais Cymru:

“Mae’r mesurau ymateb i’r coronafeirws wedi cael effaith fawr ar blant a phobl ifanc.  Efallai eu bod yn dioddef effeithiau cam-drin ac esgeulustod yn dawel yn y cartref, heb fod yn gallu siarad gydag oedolyn y maent yn ymddiried ynddynt am eu sefyllfa, ac fe allai hyn olygu eu bod yn fwy tebygol o fod yn destun camfanteisio a thrais ieuenctid.

“Fodd bynnag, gyda gwybodaeth gymunedol, sgiliau ac adnoddau, gellir atal trais, a’i gost emosiynol i ddioddefwyr a chyflawnwyr o ganlyniad, ynghyd â’r gost ariannol i wasanaethau cyhoeddus.  Cenhadaeth Uned Atal Trais Cymru yw atal trais yng Nghymru.  Mae ein gwaith gyda phartneriaid fel Crimestoppers a’i gwasanaeth ieuenctid, Fearless.org, yn allweddol er mwyn cyflawni hyn.”

Bydd yr ymgyrch yn para tair wythnos a bydd yn amlygu gwasanaeth ieuenctid Crimestoppers, sef Fearless.org, sy’n bodoli i gynnig mynediad i bobl ifanc i wybodaeth a chyngor ynghylch troseddu a throseddoldeb, mewn ffordd nad yw’n barnu.  Gan ddefnyddio’r un addewid i gadw pobl yn ddienw ag y mae Crimestoppers yn ei ddefnyddio, mae gwasanaeth Fearless.org yn cynnig lle diogel ar-lein i bobl ifanc roi gwybodaeth i ni am droseddu – mewn ffordd hollol ddienw.

I gael gwybod mwy am ymgyrch Ni fydd Tawelwch yn Rhoi Stop ar y Trais, trowch at dudalen yr ymgyrch. Os oes gennych chi wybodaeth am droseddau treisgar, gan gynnwys troseddau cyllyll, ffoniwch rif rhadffôn 0800 111 555 neu ewch ati i lenwi ein ffurflen ar-lein ddienw ar Crimestoppers-uk.org er mwyn dweud wrthym yr hyn yr ydych yn ei wybod mewn ffordd hollol ddienw 

Sylwer:  ni fyddwn fyth yn olrhain cyfeiriadau IP cyfrifiaduron, ac ni fydd unrhyw un fyth yn gwybod eich bod wedi cysylltu â ni.  Ar gyfer galwadau ffôn, nid oes gennym gyfleuster sy’n dangos llinell y sawl sy’n galw, dim cyfleuster 1471 ac nid ydym fyth wedi olrhain galwad.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle