Mae Saer Llanllwni yn codi £1,500 ar gyfer damweiniau ac achosion brys Glangwili

0
446

Bwrdd derw hardd, wedi’i wneud â llaw  gan y saer Andrew Evans o Lanllwni wedi’i werthu mewn ocsiwn i godi arian ar gyfer y GIG lleol.

Cododd y bwrdd swm arbennig o £1,500 y mae Andrew wedi’i roi i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Glangwili.

Mae’r saer coed Andrew, 62, wedi bod yn gweithio ers pan oedd yn 16 oed ac yn cynhyrchu ei bren ei hun o foncyffion ar gyfer ei ddodrefn.

Pan oedd adref yn ystod y cyfnod cloi, penderfynodd wneud bwrdd derw gyda resin ynddo – rhywbeth yr oedd wedi bod eisiau rhoi cynnig arno erioed.

Gwnaed y bwrdd, sy’n 6 ’wrth 2’6”, dros sawl wythnos, o dderw wedi ei ysbeilio a threuliwyd llawer o amser yn caboli’r resin ac yn cwyro’r darn gorffenedig.

Yna penderfynodd Andrew y byddai’n gwerthu’r Bwrdd mewn ociswn i gasglu arian ar gyfer y GIG lleol, oherwydd yr holl waith caled sy’n cael ei wneud gan staff.

Meddai: “Dewisais yr Adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glangwili i elwa o’r arian a godwyd oherwydd mae Sandra gwraig Eirwyn Hopkins sy’n gweithio gyda mi yn Brif Nyrs yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

“Mae’r staff yno wedi bod ar y rheng flaen a symudodd Sandra allan o gartref eu teulu i gadw ei phlant ifanc yn ddiogel.

“Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i ddweud diolch.”

Arwerthiant cais wedi’i selio ydoedd ac roedd yn agos iawn ar y diwedd.

“Teulu ffermio o Bercoed Uchaf, Llandysul oedd y cynigwyr llwyddiannus a gosodwyd y cais olaf o dramor ar y cyfryngau cymdeithasol!” ychwanegodd Andrew.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle