Nid yw’n iawn fod cynifer o weithwyr yng Nghymru’n ei chael hi’n anodd bwydo eu teuluoedd, meddai TUC Cymru

0
390
Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary

Wrth sôn am ffigurau’r Sefydliad Cyflog Byw heddiw (dydd Llun) sy’n dangos bod 22% o weithwyr yng Nghymru yn ennill llai na’r Cyflog Byw go iawn, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj:

“Dylai pobl sy’n gweithio ennill bywoliaeth dda.

“Yma yng Nghymru, mae llawer o’r gweithwyr sy’n ein cael drwy’r argyfwng hwn – fel gofalwyr, staff archfarchnadoedd a gyrwyr cyflenwi – yn ennill llai na’r Cyflog Byw go iawn.

“Nid yw’n iawn fod cynifer o’n gweithwyr yn ei chael hi’n anodd talu eu rhent a’u biliau a bwydo eu teuluoedd.

“Addawodd y prif weinidog ‘lefelu Prydain lan’. Rhaid i Lywodraeth y DU ddechrau drwy weithio gydag undebau i ‘lefelu lan’ cyflog ac amodau ledled y DU.

“Yma yng Nghymru, rydym yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â thâl isel drwy ein hagenda gwaith teg.

“Mae ein fforwm gofal cymdeithasol, a sefydlwyd mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru, yn enghraifft o’n hymdrechion i leihau cyflogau isel yn y sector gofal annibynnol.

“Rydym wedi ymrwymo i wneud cynnydd tebyg ar draws pob sector yng Nghymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle