Disgyblion lleol yn cryfhau eu gwreiddiau gyda gwersi yn yr awyr agored ar gynhyrchu bwyd

0
354

Mae disgyblion yn ardal Aberdaugleddau wedi bod yn dathlu cynnyrch lleol ac yn dysgu am sut mae’n cael ei gynhyrchu fel rhan o’r prosiect Gwreiddiau/Roots, sy’n cael ei ariannu gan South Hook LNG ac Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn cael ei ddarparu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Sefydlwyd y prosiect Gwreiddiau/Roots ddechrau’r flwyddyn er mwyn gwella dealltwriaeth plant o gynnyrch naturiol a’r rhwydweithiau bwyd yn eu cymunedau eu hunain. Gyda’r bwriad o gryfhau’r cysylltiadau rhwng ysgolion a chynhyrchwyr bwyd lleol, mae’r sesiynau yn yr awyr agored wedi bod yn boblogaidd iawn yn yr amgylchedd dysgu sydd ohoni ar ôl y cyfnod clo.

Dywedodd Tom Bean, Parcmon Addysg y Parc Cenedlaethol: “Er bod ysgolion a disgyblion ledled y wlad wedi wynebu heriau sylweddol eleni, mae wedi bod yn hyfryd gweld sut maen nhw wedi croesawu ffyrdd newydd o ddysgu a’r gwersi y gall yr awyr agored eu haddysgu. 

“Ers mis Medi, mae nifer o ysgolion cynradd wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon, yn cynnwys Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston, Ysgol Gymunedol Neyland, Ysgol Gatholig Sant Ffransis ac Ysgol y Glannau. 

“Tyfodd disgyblion yn Ysgol Sant Ffransis eu gwenith eu hunain, a gafodd ei falu’n flawd gan ddefnyddio melin law o Felin Lanw Caeriw. Ymhlith y gweithgareddau eraill a wnaed mae plannu, tyfu, pigo afalau, ymweld â ffermydd, astudio cynefinoedd a thrawsnewid ardaloedd yn yr awyr agored.”

Mae gwaith ar y gweill i greu ardaloedd tyfu ac ardal dysgu yn yr awyr agored yn Ysgol Gelliswick ddiwedd y flwyddyn.

“Rydyn ni mor falch o gefnogi’r prosiect yma a gwaith Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i roi ffordd i blant gysylltu â’n hamgylchedd lleol a’r holl gynhyrchwyr sy’n cefnogi rhwydweithiau bwyd yn ein Sir”, meddai Mariam Dalziel, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus South Hook LNG.

I ddysgu mwy am y rhaglenni dysgu yn yr awyr agored sydd ar gael i ysgolion ewch i www.arfordirpenfro.cymru/i-ysgolion-ac-addysgwyr 

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig a sefydlwyd i helpu i ofalu am y Parc Cenedlaethol a’i ddiogelu. I gael rhagor o wybodaeth am yr elusen a’r gwaith mae’n ei gefnogi ewch i www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle