Caneuon SOFFA Goldies yn taro’r nodyn cywir

0
417

Mae pobl hŷn ynysig ledled Cymru a Lloegr yn canu ar eu soffa bob wythnos gydag elusen Golden-Oldies.

Gorfodwyd “Goldies”, fel y’i gelwir fel arfer, i ganslo pob un o’i 200 sesiwn Canu a Gwent HWYL a gynhelir yn ystod y dydd yn ôl ym mis Mawrth oherwydd Covid. O fewn wythnosau fe wnaeth yr elusen gyflwyno canu ar-lein gyda’i rhaglen boblogaidd o sesiynau o ganeuon poblogaidd o’r 60au wedi eu rhannu gan Rachel Parry a Cheryl Davies, dwy o arweinwyr sesiwn poblogaidd yr elusen yng Nghymru.

Dywedodd Grenville Jones, a sefydlodd Goldies:

“Cafwyd ymateb ar unwaith ac ym mis Gorffennaf bu modd i ni gael cyllid i gynyddu i sesiynau ddwywaith yr wythnos, gyda Rachel yn fyw bob dydd Mawrth a Cheryl yn arwain bob dydd Iau.”

Wrth i’r sesiynau ddatblygu, cawsant eu cefnogi, eu hyrwyddo a’u dilyn gan lawer o sefydliadau eraill i bobl hŷn ledled Cymru a Lloegr.

Mae gan y sesiynau ar ddyddiau Mawrth gyda Rachel fwy o arddull cylchgrawn yn cynnwys fideos gwybodaeth iechyd cyhoeddus ac ‘ymddangosiadau’ gan lawer o’r arweinwyr sesiwn oedd yn flaenorol yn cyflwyno’r sesiynau yn ystod y dydd.

Gyda gwefan arbennig www.goldieslive.com aiff y sesiynau a recordiwyd ymlaen llaw yn fyw ar YouTube ac ar Facebook bob wythnos lle gellir edrych ac ailedrych arnynt ar unrhyw amser. Mae adborth bob wythnos o bob rhan o Brydain.

Roedd Mary Tamburella yn un o lawer iawn o bobl a anfonodd sylwadau yn ystod yr wythnosau diweddar.

“Diolch yn fawr, rwyf wrth fy modd gyda’r sesiynau. Mae fy chwaer yng nghyfraith yn byw gyda fi. Mae dementia arni ac rwy’n ei chwarae iddi y rhan fwyaf o nosweithiau cyn mynd i’r gwely.”

Ychwanegodd Grenville:

“Os oedd Goldies yn bwysig i bobl hŷn ynysig ac unig cyn Covid, yna mae ein gwaith hyd yn oed yn bwysicach i atal ynysigrwydd a llesiant, gan ymestyn allan i bobl bregus sy’n gaeth i’w cartrefi.”

Gyda’r Nadolig ar y gorwel mae Rachel a Cheryl yn gweithio i sicrhau cyngerdd Carolau Nadolig arbennig iawn a gaiff ei ddarlledu ar y dydd Mercher cyn Dydd Nadolig. Bydd yn cynnwys carolau poblogaidd a pherfformiadau arbennig i bawb eu mwynhau adref.

Hyd yn oed yn y cyfnod clo, gall pawb fwynhau Nadolig Goldies.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleSouth Wales Police Remembrance Service 2020
Next articleToybox Appeal launched online
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.