Galw ar gwmnïau prosesu llaeth yng Nghymru – Cyswllt Ffermio yn lansio prosiect ansawdd llaeth i gynyddu elw ar gyfer cyflenwyr – cofrestrwch eich diddordeb erbyn 16 Tachwedd 2020

0
413

Mae prosiect sydd wedi arwain at welliannau sylweddol mewn ansawdd llaeth ar ffermydd godro sy’n cyflenwi hufenfa yng Nghymru bellach yn cael ei ehangu.

Mae Cyswllt Ffermio, ar y cyd â Kite Consulting, yn cynnig cyfle i gwmni prosesu weithio gyda’i gyflenwyr i wella eu cyfrif celloedd somatig (SCC) a lefelau bactoscan.

Bydd y prosiect “Godro pob Tamaid”, sydd wedi’i ariannu’n llawn, yn dilyn rhaglen beilot a ddarparwyd ar y cyd â Hufenfa De Arfon yn 2019.

Llwyddodd y prosiect peilot i sicrhau gwelliant o 21 uned ar gyfartaledd o ran lefelau bactoscan, a lleihad o 49,000 cell/ml ar gyfartaledd o ran cyfrif celloedd somatig.

Ar gyfer buchesi problemus, amcangyfrifir bod hyn wedi arwain at gynnydd o £4,240 mewn refeniw dros gyfnod o flwyddyn (yn seiliedig ar gyfanswm cyfartalog o fuchesi gyda rhwng 40 a 280 o wartheg).

Mae’r prosiect newydd, a fydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Mehefin 2021, yn rhoi cyfle i gwmni prosesu arall a’i gyflenwyr i ailadrodd y llwyddiant hwn.

Dywed Elliw Hughes o Cyswllt Ffermio, y bydd cyfarfodydd ‘rhithwir’ yn cael eu cynnal rhwng y cwmni prosesu a ddewisir a’u cyflenwyr. Byddai’r cyflenwyr hefyd yn cael ymweliad un i un gan arbenigwr peiriannau godro i edrych ar feysydd i’w gwella – naill ai gwella’r cyfrif celloedd a lefelau mastitis neu lefelau bactoscan.

“Os bydd y cyflenwr yn dewis cyfrif celloedd somatig/mastitis fel maes i’w wella, bydd gwartheg gyda chyfrif celloedd uchel/mastitis yn cael eu profi i ganfod y straen bacteria amlycaf, ynghyd â dadansoddiad o unrhyw gofnodion ansawdd llaeth sydd ar gael,” meddai.

Bydd ymweliad gan arbenigwr yn edrych ar heriau amgylcheddol y fferm, ynghyd â’r drefn arferol ar gyfer godro, a bydd cynllun gweithredu’n cael ei greu.

Os bydd y cyflenwr yn dewis yr agwedd bactoscan, bydd dadansoddiad ‘NMR Bacto-breakdown’ yn cael ei gwblhau i ganfod ai ffactorau amgylcheddol neu’r peiriannau yw’r broblem. 

Yn ystod yr ymweliad, bydd y siediau’n cael eu hasesu, ynghyd â’r broses odro, arferion glanhau peiriannau a’r system oeri llaeth, a bydd cynllun gweithredu’n cael ei greu yn dilyn hynny.

Yn dilyn yr ymweliadau, bydd y cyfrif celloedd a’r lefelau bactoscan yn cael eu monitro am gyfnod o dri mis, gyda chymorth ar gael dros y ffôn gan yr arbenigwr cyn dadansoddi’r canlyniadau a’r canfyddiadau a’u hadrodd yn ôl i’r cyflenwyr sy’n cymryd rhan. 

Mae Ms Hughes yn annog cwmnïau prosesu i gymryd rhan.

Bydd y cwmni prosesu yn elwa drwy gael llaeth o ansawdd uwch, gan arwain at gynyddu oes silff a lleihau gwastraff, a bydd yn cynnig elw ariannol i’r cyflenwyr,” meddai.

Mae’r ffurflen ar gyfer datgan diddordeb ar gael ar y wefan https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/da-byw/llaeth/godro-pob-tamaid

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle