Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn Cyhoeddi Prif Weithredwr Newydd

0
1465
OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Mae’n bleser gan Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gyhoeddi ei bod wedi penodi Dr Sue Barnes fel ei Phrif Weithredwr newydd. 

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Dywedodd Dr Barnes, a anwyd yn Abertawe, ac sydd wedi gweithio yn Llundain a de a dwyrain Lloegr ers dros 20 mlynedd, ei fod yn ‘bleser eithriadol’ ganddi ymgymryd â’r rĂ´l. 

Mae gan Dr Barnes, a enillodd radd dosbarth cyntaf a PhD o Brifysgol Caerdydd, brofiad helaeth ym maes strategaeth ac arweinyddiaeth gydag amrywiaeth o sefydliadau proffil uchel, ac mae wedi gweithio mewn sawl rĂ´l ar lefel Bwrdd yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Daw at yr Elusen o uwch-rĂ´l arwain yn y sector preifat, er ei bod wedi treulio rhan helaeth o’i gyrfa yn gwella gwasanaethau cyhoeddus ar lefel leol a chenedlaethol.

Cyn ei rĂ´l bresennol yn gweithio fel Cyfarwyddwr i’r cwmni gwasanaethau busnes rhyngwladol, Arvato CRM Solutions UK, bu Dr Barnes, sy’n byw yn Ne Cymru, yn gweithio mewn swyddi ar lefel uwch neu fel cyfarwyddwr i sawl cyngor sir yn y DU, Heddlu Swydd Northampton, yr Awdurdod Addysg Iechyd, Ymddiriedolaeth Wellcome a’r Comisiwn Archwilio. At hynny, gweithiodd fel cynghorydd strategol ar gyfer Dinas Llundain. 

Er gwaethaf y ffaith ei bod wedi gweithio i ffwrdd ers cymaint o flynyddoedd, treuliodd Dr Barnes lawer o amser yn ymweld â’i theulu yn Abertawe, a symudodd yn Ă´l i Gymru yn 2012. Mae wrth ei bodd ei bod bellach nĂ´l gartref, a hynny’n bersonol ac yn broffesiynol.  

Dywedodd: “Mae’n bleser eithriadol gennyf fy mod yn ymgymryd â rĂ´l Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru. Mae is-bennawd yr Elusen ‘Gwasanaethu Cymru, Achub Bywydau’ yn ddatganiad pwerus a chymhellol iawn ac, ar lefel bersonol, mae’n rhywbeth sy’n gwbl gydnaws â’m gwreiddiau Cymreig a’m hethos a’m cefndir gwasanaeth cyhoeddus.

“Rwy’n ymwybodol iawn bod 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i’r sector elusennau, ac mae’r dirwedd yn parhau i newid. Rwy’n gwybod hefyd fod gan bobl Cymru feddwl uchel o’r Elusen, a’u bod yn ei gwerthfawrogi’n fawr. Gyda’r gefnogaeth a’r haelioni parhaus a gawn o bob cwr o’r wlad, ynghyd ag ansawdd ac ymrwymiad y bobl hynny sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli i ni, rwyf wir yn credu y gall yr Elusen fynd o nerth i nerth. 

“Er gwaethaf yr ansicrwydd parhaus ynghylch y pandemig, gallwn fod yn obeithiol hefyd, wrth i Ambiwlans Awyr Cymru ddathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu yn 2021 ac agosĂĄu at ei nod o gyflwyno gwasanaeth 24/7 i bobl Cymru.” 

Dywedodd Dave Gilbert, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr: “Mae’n bleser mawr gennyf groesawu Dr Sue Barnes fel ein Prif Weithredwr newydd. Penodwyd Dr Barnes yn dilyn proses recriwtio gystadleuol iawn lle cawsom nifer mawr o geisiadau gan ymgeiswyr cymwys iawn.

“Mae pob un ohonom yn ymwybodol ein bod yn gweithio mewn amgylchedd hynod newidiol. Bydd y pandemig yn cael effaith barhaus, a bydd yn allweddol, er mwyn sicrhau llwyddiant yn y dyfodol, i ni addasu ein strategaeth er mwyn cydnabod y newidiadau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau. Gyda chefndir helaeth Dr Barnes ym maes strategaeth, rwy’n sicr y bydd yn tywys yr Elusen ymlaen ac yn ein helpu i adeiladu ar lwyddiant arbennig yr Elusen dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.”

Cafodd Dr Barnes ei phenodi yn dilyn ymddeoliad ei rhagflaenydd, Angela Hughes, yn yr haf. Bydd yn dechrau ei rĂ´l gydag Ambiwlans Awyr Cymru ddydd Mercher 2 Rhagfyr. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle