- Mae bron i saith ym mhob deg (68%) o gamblwyr presennol wedi cynyddu un ai nifer yr arian neu’r amser a dreuliwyd ar o leiaf un gweithgaredd gamblo
- Arolwg YouGov yn datgelu bod gamblwyr rhwng 18-34 oed wedi nodi cynnydd mewn gamblo
- TUC Cymru yn lansio pecyn cymorth Gamblo Problemus yn ystod Wythnos Gamblo Mwy Diogel (19 – 25 Tachwedd)
Yn ôl TUC Cymru, mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn “niweidiol tu hwnt” i’r rheiny yr effeithir arnynt gan gamblo problemus.
Mae dyledion, perthnasoedd yn torri i lawr, iechyd meddwl gwael a hyd yn oed hunanladdiad wedi bod yn gysylltiedig â thwf gamblo problemus yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:
“Gall gamblo problemus afael yn dynn ar eich bywyd chi. Bellach, mae eich ffôn symudol yn gasino yn eich poced, gyda gamblo ar-lein ar flaenau eich bysedd 24/7.
Mae niweidiau gamblo yn mynd y tu hwnt i’r unigolyn, ac yn effeithio ar ei ffrindiau, ei anwyliaid a’i gydweithwyr.
Gall Undebau chwarae rhan allweddol o ran cefnogi aelodau yn ystod eu taith iechyd meddwl, a’u cyfeirio at gefnogaeth briodol, wrth greu diwylliant yn y gweithle sy’n gefnogol ac yn llawn cydymdeimlad.
Dyma pam mae TUC Cymru wedi datblygu pecyn cymorth i gynrychiolwyr, er mwyn cefnogi aelodau sy’n wynebu gamblo problemus, ac i’w cyfeirio at gymorth.”
Bydd pecyn cymorth TUC Cymru’n cael ei lansio ddydd Iau, 19 Tachwedd, gyda digwyddiad ar-lein yn ystod Wythnos Gamblo Mwy Diogel (19-25).
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad mae Carolyn Harris – Aelod Seneddol (Cadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Niwed Gamblo), Mick Antoniw – Aelod Senedd Cymru (Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Gamblo Problemus), ac ARA sy’n cynnig cwnsela a chefnogaeth i gamblwyr problemus a phobl eraill sy’n cael eu heffeithio ganddo.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle