CYNHYRCHYDD SALAMI O GYMRU’N FUDDUGOL YNG NGWOBRAU MOCH CENEDLAETHOL 2020

0
357

Mae cynhyrchydd moch mentrus o Gymru, Cwm Farm Charcuterie Ltd, wedi derbyn y brif wobr yng Ngwobrau Moch Cenedlaethol 2020.

Fe’i trefnwyd gan gylchgrawn Pig World y Gymdeithas Foch Genedlaethol, ac eleni cynhaliwyd rownd derfynol y gwobrau yn rhithwir ar 16 Tachwedd.

Bu Cwm Farm yn fuddugol yng nghategori Menter Farchnata’r Flwyddyn, gyda ffermwr o Sir Gaerfyrddin, Luke Starkey, yn y rownd derfynol yng nghategori Ffermwr Moch Ifanc y Flwyddyn.

Meddai Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “Rydym wrth ein bodd bod arbenigedd a brwdfrydedd Cwm Farm Charcuterie wedi cael ei gydnabod, a bod Cymru wedi’i chynrychioli yn y rownd derfynol gan ddwy fenter foch wych sydd wedi mynd â’u mentrau i’r brig.

“Mae Menter Moch Cymru yn gweithio gyda phob sector o’r gadwyn gyflenwi i ddatblygu diwydiant moch mwy cynaliadwy, proffidiol a chadarn yng Nghymru. Mae llwyddiant Cwm Farm Charcuterie yn dangos pa mor bwysig ydyw i gynhyrchwyr Cymru fynd allan a chael sylw’r cyhoedd a dangos y porc gwych y maen nhw’n yn ei gynhyrchu.”

Drwy ennill categori Menter Farchnata’r Flwyddyn, mae Fferm Cwm yn Ystradgynlais wedi ychwanegu at gasgliad o dlysau arbennig.

Mae Ruth ac Andrew Davies, ffermwyr moch sydd wedi mynd ati i gynhyrchu salami, wedi creu amrywiaeth arloesol o gigoedd wedi’u halltu a salami sy’n boblogaidd gan rai o’r bwytai gorau yn ogystal â chefnogwyr rygbi llwglyd Cymru.

Mae dawn naturiol Ruth ar gyfer marchnata a’r ffordd wreiddiol, a doniol yn aml, o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol wedi helpu i greu sylfaen cwsmeriaid ffyddlon – a chynyddol – sy’n ymestyn o Gymru i’r Ffindir ac yn ddiweddar, y Swistir a Kansas (UDA). 

Meddai Ruth, “Dw i wrth fy modd ein bod wedi ennill y wobr yma, nid yn unig mae’n wych i fusnes Cwm Farm, ond mae’n golygu cymaint i mi hefyd. Mae Andrew a minnau’n credu’n gryf mewn cynnig gwasanaeth personol i gwsmeriaid. Rydyn ni eisiau iddyn nhw wybod, pan fyddan nhw’n codi’r ffôn, mai’r un person ydw i â’r sawl maen nhw’n ei weld ar Twitter neu Instagram.”

Mae marchnata wedi dod yn rhan enfawr o redeg busnes llwyddiannus, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni.

Meddai Ruth, “Mae a wnelo â’r siwrnai, ac mae marchnata wedi datblygu cymaint yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae cystadlaethau fel y Gwobrau Moch Cenedlaethol yn helpu i godi ymwybyddiaeth o gynhyrchwyr moch Cymru.”

Mae hyrwyddo eu busnesau’n rhagweithiol yn rhywbeth y mae angen i gynhyrchwyr moch Cymru ei ystyried o ddifrif i greu marchnad ehangach ar gyfer eu cynnyrch.

Meddai, “Mae’n rhaid i chi dynnu sylw atoch eich hun a hyrwyddo eich cynnyrch. Ydw, rwy’n ffermwr moch, ac rwy’n angerddol am yr hyn rydym yn ei gynhyrchu. Ond er ein bod yn gwneud pentwr o salami, yn y pen draw mae’n rhaid i ni ei werthu o.” 

Mae’n credu nad oes yn rhaid i gynhyrchwyr moch Cymru ysgwyddo costau ychwanegol o reidrwydd.

“Gall ffermwyr fel ni heb lawer o arian i’w wario ar farchnata gyflawni llawer ein hunain. Fy fydda i’n dweud wrth bobl, dw i mewn welintons yn y bore, yn y prynhawn dwi’n gwneud salami, a gyda’r nos dwi’n ei hyrwyddo – a dw i hyd yn oed yn canu amdano!”

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle