Llythyr – Llythyr oddi wrth Siôn Corn

0
718
Children and adults pictures are models. Credit Tom Hull

Annwyl Olygydd,

Wrth i ni nesáu at Nadolig gwahanol iawn i’r arfer, mae’n bosibl bod eich darllenwyr yn meddwl sut y gallent wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant ledled Cymru. Un ffordd y gallant gefnogi’r NSPCC i barhau i fod yno i blant a phobl ifanc nad yw’r Nadolig yn gyfnod braf iddynt, yw drwy roi rhodd i greu un o’n Llythyrau oddi wrth Siôn Corn, sydd hefyd ar gael yn Gymraeg.

Gwyddom fod o leiaf dau blentyn ym mhob ystafell ddosbarth ysgol gynradd ar gyfartaledd wedi dioddef rhyw fath o gamdriniaeth. Mae archebu Llythyr oddi wrth Siôn Corn yn ffordd hyfryd i ddarllenwyr ddod â llawenydd i’w teuluoedd eu hunain a chadw hud y Nadolig yn fyw, gan wybod eu bod yn ein helpu i ddarparu’r cymorth angenrheidiol i blant eraill.

Gyda gweithdy Siôn Corn bellach ar agor, gall darllenwyr archebu llythyr personol ar gyfer eu plentyn, neu hyd yn oed eu hanifail anwes, gan ddewis o wyth llythyr gan gynnwys ‘Nadolig Cyntaf’ a ‘Rownd Derfynol Cwpan y Corachod’, y gellir eu personoli gydag enw, oedran a diddordebau’r plentyn.

Awgrymwn rodd o £5 ar gyfer pob llythyr a all helpu Childline i fod yma i blant beth bynnag yw eu pryder. Gallai £10 dalu i ymarferydd ateb dwy alwad i linell gymorth yr NSPCC gan oedolyn sy’n poeni am blentyn.

I greu llythyr personol i’ch teulu oddi wrth Siôn Corn, ewch i wefan NSPCC.

Emma Brennan

Rheolwr Gweithgareddau Codi Arian Cefnogwyr

NSPCC Cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle