Partneriaeth y Brifysgol yn barod i helpu busnesau newydd i greu’r cysylltiadau cywir

0
460

Bydd cydweithrediad newydd yn rhoi hwb rhwydweithio gwerthfawr i fyfyrwyr entrepreneuraidd wrth iddynt lansio eu syniadau busnes. 

Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe wedi ymuno â 4theRegion, sefydliad sy’n dod â busnesau, grwpiau cymuned a phobl sydd am wneud gwahaniaeth ledled De-orllewin Cymru ynghyd, i greu’r fenter Starting Up in the Region

Diolch i bartneriaeth rhwng 4theRegion a Thîm Mentergarwch Prifysgol Abertawe, telir ffioedd aelodaeth busnesau newydd myfyrwyr am flwyddyn gyfan. Mae hyn yn golygu y byddant yn cael mynd i ddigwyddiadau a fforymau aelodau yn ogystal ag achub ar y cyfle i rwydweithio â 250 o aelodau’r grŵp a chael cymorth amhrisiadwy ar garreg y drws. 

Mae gan y Brifysgol hanes rhagorol o annog meddyliau busnes ac mae ei thîm pwrpasol yn falch bod y cymorth ychwanegol hwn i ddarpar entrepreneuriaid wedi cael ei sicrhau. 

Meddai Kelly Jordan, Swyddog Mentergarwch o’r Gwasanaethau Arloesi, Ymchwil ac Ymgysylltu: “Mae sefydliadau addysg yn feithrinfeydd arloesi. Mae myfyrwyr o bedwar ban byd yn dod iddynt er mwyn dysgu, arloesi a chreu. 

“Rydym am greu cymuned y bydd y rhai sy’n dechrau busnesau newydd yn teimlo’n gysylltiedig â hi ac a fydd yn gefn iddynt wrth iddynt ddatblygu eu busnesau a’u syniadau yn y rhanbarth.” 

Meddai Sam Burvill, arweinydd partneriaethau clyfar yr Ysgol Reolaeth: “Rydym wedi profi ein gallu i weithio gyda diwydiant, y gymuned a’n myfyrwyr i hwyluso datblygiadau a mentrau yn y rhanbarth. Mae’r bartneriaeth hon yn gyffrous iawn i bawb sy’n cymryd rhan ynddi, yn enwedig busnesau newydd ein myfyrwyr ysbrydoledig, a fydd yn siŵr o gyflawni pethau mawr.” 

Meddai Dawn Lyle, o 4thRegion: “Fel rhanbarth, mae angen i ni wneud popeth posib i annog busnesau newydd ac entrepreneuriaid a’u cefnogi. Dyma’r busnesau a’r bobl a fydd yn creu swyddi yn y dyfodol ac maent yn hollbwysig i lwyddiant economi’r rhanbarth yn y dyfodol. 

“Rydym am gyflwyno’r entrepreneuriaid bendigedig hyn i fusnesau sefydledig a chwsmeriaid posib ledled ein rhanbarth fel y gallant deimlo eu bod yn rhan o gymuned ffyniannus o fusnesau o’r dechrau’n deg.” 

Daw’r fenter newydd ar ôl i Abertawe gyrraedd y pedwerydd safle mewn rhestr o’r lleoedd gorau yn y DU i ddechrau busnes newydd. 

Yn ôl arolwg proffil uchel gan Startup Geek, sy’n wefan ar gyfer busnesau, roedd y ddinas yn rhagori ar Gaerdydd, Bryste a Llundain – ac roedd ei chyfradd uchel o gadw graddedigion yn un o’r rhesymau. Gwnaeth yn dda hefyd o ran costau swyddfeydd rhad a chyfraddau goroesi busnesau newydd ar ôl pum mlynedd. 

Mae Starting Up in the Region ar agor i unrhyw fyfyriwr a all ymuno fel cydweithredwr am gyn lleied â £5 y mis. 

Ceir rhagor o fanylion drwy e-bostio zoe@4theregion.com


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle