Labordy Trafnidiaeth Cymru yn gweld ail gohort yn dod â rhagor o arloesi a syniadau newydd

0
337

Daeth ail griw’r rhaglen arloesi fwyaf blaenllaw yng Nghymru ar gyfer y rheilffyrdd i ben yr wythnos diwethaf, wrth gyhoeddi Spatial Cortex yn enillwyr yn dilyn diwrnod arddangos rhithiol llwyddiannus.

Cynhaliwyd y diwrnod arddangos ddydd Gwener 13 Tachwedd, a’i nod oedd ysbrydoli arloesedd mewn busnesau a chynnig cipolwg ar rai o’r datblygiadau arloesol sy’n dod i rwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

Roedd pob un o’r 11 o fusnesau newydd yn y cohort – sef rhai o’r doniau technolegol mwyaf creadigol ac uchelgeisiol yng Nghymru a’r DU – wedi cyflwyno eu syniadau i’r swyddogion blaenllaw sy’n gwneud penderfyniadau yn Nhrafnidiaeth Cymru mewn ymgais i sicrhau cyllid ychwanegol i ddatblygu eu cynnyrch ymhellach a helpu i lunio’r profiad i gwsmeriaid ar y rheilffyrdd yng Nghymru.

Mae’r cohort wedi bod yn gweithio’n agos gyda TrC dros y 12 wythnos diwethaf, ac wedi bod yn cael eu mentora gan arbenigwyr busnes i ddatblygu eu cynnyrch, eu syniadau a’u dyfeisiadau yn ystod y rhaglen cyflymu.

Bwriad y cynllun arloesol yw ysgogi twf yng Nghymru drwy gynnig cyfle cyffrous i arloeswyr busnesau feddwl am syniadau sy’n gwella’r profiad i gwsmeriaid ar y rheilffyrdd.

Roedd y diwrnod arddangos yn cynnwys cyflwyniadau fideo gan bob un o’r busnesau newydd, yn ogystal â chyfle i’r mynychwyr ofyn cwestiynau a rhwydweithio gyda nhw yn ystod ystafelloedd ymneilltuo rhithiol Microsoft Teams.

Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid yw cohort 2 o’r rhaglen wedi gallu cael ei gynnal yng nghyfleuster labordy modern newydd TrC yng Nghasnewydd, a bu’n rhaid i’r busnesau newydd weithio o bell.

Ar ôl diwrnod o gyflwyniadau, dewiswyd Spatial Cortex yn enillwyr a byddant yn cael 25,000 i ddatblygu eu cynnyrch ymhellach.

Mae’r cynnyrch arfaethedig, sef MOVA, yn dechnoleg chwyldroadol y mae modd i staff y rheilffyrdd ei gwisgo i helpu i leihau anafiadau wrth godi a chario pan fyddant yn ymgymryd â thasgau fel codi, cario a symud deunyddiau, boed hynny wrth ymyl y cledrau, yn y depos neu wrth wneud gwaith cynnal a chadw. Maen nhw’n credu y bydd y dechnoleg yn galluogi asesiadau meintiol ac yn rhoi cipolwg mwy manwl ar sut mae atal anafiadau codi a chario yn ogystal â mynd i’r afael ag anfanteision yr arferion presennol sy’n gysylltiedig ag asesu risg.

Yn siarad ar ôl eu cyhoeddi yn enillwyr, dywedodd Kailash Manoharaselvan, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Spatial Cortex:

“O ystyried ein bod yn fusnes newydd cam cynnar ar hyn o bryd, mae ennill y wobr yn hollbwysig a bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ni.

“Bydd yn cyflymu ac yn rhoi hwb i ni ar ein taith drwy roi mwy o adnoddau ac amser i ni gyflawni’r camau nesaf gyda Thrafnidiaeth Cymru”.

Soniodd Barry Lloyd, Pennaeth Profiad Cwsmeriaid ac Arloesi yng Ngwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru am y cyffro o gael gweithio gyda Spatial Cortex, a dywedodd:

“Roedd y diwrnod yn gyfle gwych i arddangos y cwmnïau talentog rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw dros y 12 wythnos diwethaf. Roedd beirniadu pob un o’r 11 yn dasg anodd ond roeddem yn teimlo bod gan Spatial Cortex y potensial i arloesi yn y rheilffyrdd a chael effaith enfawr, nid yn unig i ni, ond i’r diwydiant cyfan.

“Mae Emu Analytics a Route Konnect hefyd yn haeddu canmoliaeth uchel am eu holl waith caled yn datblygu atebion gwych i ni.

“Rydym hefyd yn edrych ar yr opsiwn o weithio gyda rhai o’r cohort na chawsant gymeradwyaeth, sy’n brawf o safon yr 2il gohort hwn”.

Cyfeiriodd Michael Davies, Rheolwr Arloesi a Syniadau Trafnidiaeth Cymru, hefyd at ei edmygedd o’r cohort, a datgelodd fod y camau nesaf ar gyfer y rhaglen eisoes ar waith:

“Roedd rhedeg cohort yn erbyn cefndir COVID-19 yn her enfawr, ond roedd y tîm yn Alt Labs, pob un o’r busnesau newydd a fu’n rhan o hyn, a phawb yn Nhrafnidiaeth Cymru wedi gwneud ymdrechion sylweddol i sicrhau ei lwyddiant. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r prosiect am eu gwaith caled dros y 12 wythnos diwethaf.

“Mae’r broses recriwtio bellach wedi dechrau ar gyfer ein cohort nesaf, a’r bwriad yw ei lansio ddechrau’r flwyddyn nesaf, felly cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi syniad gwych rydych chi’n credu all gael effaith gadarnhaol ar ddiwydiant y rheilffyrdd”.

Gallwch wylio recordiad o’r 11 o fusnesau newydd wrth iddynt gyflwyno eu cynnyrch yn ystod y diwrnod arddangos yma.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle