Profion i’w darparu’n fwy lleol i gadw Aberteifi yn ddiogel

0
513

Bydd modd archebu profion ar gyfer pobl â symptomau COVID-19 yn Aberteifi o heddiw ymlaen (24 Tachwedd 2020).

Bydd cyfleuster profi gyrru drwodd dros dro ym Maes Parcio Fairfield, yn darparu profion i bobl leol sydd â symptomau rhwng 9.30am a 3.30pm. Dim ond i bobl sydd wedi archebu trwy borth archebu’r DU y rhoddir profion ac ni ddylech ddod heb apwyntiad.

Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19 – peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, neu newid neu golled i ymdeimlad o arogl; dylech fynd adref, archebu prawf a gadael eich cartref ar gyfer eich prawf yn unig.

Gallwch archebu prawf trwy ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm, neu ar-lein yn:
 https://gov.wales/apply-coronavirus-covid-19-test

Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.

Os cewch ganlyniad negyddol, gallwch adael eich cartref eto, ac os yw’n positif dylech aros gartref a dilyn y cyngor a roddir i chi a’ch teulu estynedig neu aelodau eraill o’r cartref.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan weithio gyda Cyngor Ceredigion a gweithredwyr canolfannau profi Sodexo, wedi gwella profion yn y dref i’w gwneud hi’n gyflymach ac yn haws i bobl leol gael eu profi yn dilyn cynnydd mewn achosion positif.

Mae hyn yn effeithio ar bobl yn y dref, ond hefyd ar rai ardaloedd cyfagos yn ne Ceredigion a gogledd Sir Benfro.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydyn ni’n gwybod bod cryfder ac ysbryd cymunedol gref yn Aberteifi a’r ardaloedd cyfagos ac rydyn ni’n diolch i’r gymuned, gweithwyr y sector gyhoeddus a busnesau am bopeth maen nhw wedi’i wneud hyd yn hyn. Mae’r firws bellach yn cylchredeg yn y gymuned hon ac mae angen i bawb barhau i weithio gyda’i gilydd i gyfyngu ar ei ledaeniad gymaint â phosibl.

“Gallai pa gamau rydych chi’n eu cymryd nawr i amddiffyn y rhai o’ch cwmpas wneud gwahaniaeth. Mae’n bwysig iawn ein bod yn cadw cymdeithasu corfforol i’r lleiafswm a dim ond o fewn eich swigen fach gydag un cartref arall. Mae hyn yn golygu am nawr i beidio ymgynnull y tu mewn, fel mewn cartrefi neu dafarndai, gyda phobl y tu allan i’ch swigen. Arhoswch 2m ar wahân i bobl y tu allan i’ch swigen hyd yn oed pan fyddwch chi yn yr awyr agored a gwisgwch orchudd wyneb pan fyddwch chi o amgylch pobl eraill fel pan yn siopa. Golchwch eich dwylo yn rheolaidd ac yn drylwyr hefyd.

“Mae’r holl fesurau hyn wedi dangos eu bod yn effeithiol o ran lleihau’r risg o ledaenu COVID-19. Maen nhw’n eich cadw chi’n ddiogel ac yn amddiffyn y bobl o’ch cwmpas, gan gynnwys y rhai sy’n fwy agored i niwed yn y gymuned ehangach. ”

Mae timau olrhain cyswllt yn gweithio’n galed i gysylltu â phobl leol a allai fod wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos positif yn ardal Aberteifi.

Meddai Ros: “Mae ein timau olrhain cyswllt wedi clywed gan sawl achos positif nad oedd ganddyn nhw fawr o symptomau, os o gwbl. Mae llawer ohonynt yn adrodd mai’r arwyddion cyntaf yw cur pen, blinder a phoenau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel rheol. Felly rydyn ni’n annog pobl sy’n teimlo’n sâl i fod yn ofalus iawn, yn enwedig i ymarfer hylendid dwylo a phellter cymdeithasol, ac os oes unrhyw amheuaeth, archebwch brawf. “


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle