Lansio cynllun Cynghorwyr Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod Llywodraeth Cymru ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn

0
400

Heddiw, ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn, mae Cynghorwyr Cenedlaethol Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn rhyddhau eu cynllun blynyddol sy’n amlinellu eu hamcanion a’u blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021.

Mae ymgyrch Rhuban Gwyn y Deyrnas Unedig gyfan yn ceisio codi ymwybyddiaeth o drais dynion yn erbyn menywod.

Mae symbol y rhuban gwyn yn cynrychioli’r argyhoeddiad nad yw camdriniaeth, o unrhyw fath, yn dderbyniol. Eleni, mae’r neges yn bwysicach nag erioed, yn sgil bod cynnydd sylweddol mewn trais, aflonyddwch a chamdriniaeth sy’n niweidio menywod yn ystod pandemig y coronafeirws.

Ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn, mae miloedd o lysgenhadon yn herio ac yn gwrthwynebu trais yn erbyn menywod gan leisio’u barn. 

Mae Nazir Afzal, cyn prif erlynydd a fu’n arwain ar achos y fasnach rhyw yn Rochdale, a Yasmin Khan, sylfaenydd elusen sy’n taclo trais ar sail anrhydedd, wedi bod yn Gynghorwyr Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ers mis Ionawr 2018.

Mae Yasmin a Nazir yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ffordd fwyaf effeithiol o weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Maent hefyd yn cydweithio â dioddefwyr, goroeswyr a sefydliadau sy’n bartneriaid, er mwyn trafod a llunio gwelliannau yn y modd y caiff gwasanaethau eu cynllunio, eu comisiynu a’u darparu.

Mae eu cynllun blynyddol yn pennu’r amcanion a’r blaenoriaethau ar gyfer 2021 i 2022. Mae hefyd yn adlewyrchu’r heriau a wynebir, a’r camau gweithredu sydd eu hangen ledled Cymru.

Dywedodd Jane Hutt:

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’n Cynghorwyr Cenedlaethol gwych am eu harbenigedd a’u cyngor. Yng Nghymru, fel sy’n digwydd ar draws y byd, mae llawer gormod o fenywod yn dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol bob dydd. Ond fyddwn ni ddim yn cadw’n dawel.

“Drwy gydweithio, darparu addysg, codi ymwybyddiaeth a herio anghydraddoldebau ac agweddau negyddol sy’n cyfrannu at drais a chamdriniaeth, gallwn ni newid y sefyllfa.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben. Fyddwn ni ddim yn gorffwys tan inni sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf diogel yn Ewrop i fenywod.”

Dywedodd Yasmin Khan:

“Mae’n bum mlynedd ers pasio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a dyma’r meincnod o hyd ar gyfer mesur deddfwriaeth ar drais ar sail rhywedd ledled y Deyrnas Unedig.

“Ein prif amcan yn y cynllun blynyddol diwethaf oedd gweld a allai dull iechyd y cyhoedd o ymdrin â thrais yn erbyn menywod weithio, a chael ei roi ar waith ledled Cymru; dyma ein prif amcan o hyd yn y flwyddyn i ddod.

“Rydyn ni o’r farn mai dull ataliol yw’r ateb i ddileu trais yn erbyn menywod, a bod addysg yn ganolog i’r dull hwnnw. Felly, mwy o ymwybyddiaeth, mwy o arbenigaeth ac arbenigedd, gwaith atal amlasiantaethol, meithrin hyder dioddefwyr, gweithio gyda chyflawnwyr i’w helpu i newid eu hymddygiad, ac addysg i newid agweddau yw’r camau gweithredu allweddol i leihau, a thrwy hynny ddileu, achosion o gam-drin yn y pen draw. Mae Cymru’n parhau i fod ar flaen y gad o ran yr hyn y gellir ei gyflawni.”

Yn ei fideo, fel Llysgennad Rhuban Gwyn, dywedodd y Cynghorydd Cenedlaethol Nazir Afzal:

“Bydd un o bob pedair menyw yn dioddef cam-drin domestig a bydd ymosodiad rhywiol ar un o bob pump yn ystod eu hoes; mae mwy na hanner y menywod yn cael eu haflonyddu’n rhywiol yn ystod eu gyrfa; bydd tair menyw yn cymryd eu bywyd eu hunain, a bydd dwy fenyw yn marw bob wythnos oherwydd cam-drin domestig. Yn ystod pandemig presennol Covid bu cynnydd aruthrol yn nifer yr achosion o gam-drin domestig a thrais rhywiol a thrais yn erbyn menywod.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i bobl sefyll yn erbyn cam-drin domestig. Mae bod yn llysgennad Rhuban Gwyn yn ffordd o ddweud y byddwch chi’n gwneud gwahaniaeth. Ac os byddwch chi’n gweithredu’n wahanol, gallwch chi fod yn sicr y bydd bywydau’n cael eu hachub.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle