Mae gwaith arloesol prosiect Prifysgol Abertawe i wella ffyrdd o bennu diagnosis o ganser yr ofari a thrin y clefyd wedi helpu i sicrhau buddsoddiad gwerth mwy na ÂŁ3m gan bartneriaid diwydiannol.
Mae’r Clwstwr Therapiwteg Cyffuriau Gwrthgyrff Cyfunedig ac Epigenomaidd (CEAT) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe hefyd wedi denu cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru â gan ddod â chyfanswm gwerth y prosiect i fwy na ÂŁ5m.
Mae epigeneteg yn ymwneud ag astudio newidiadau cemegol i DNA a phroteinau cysylltiedig a all arwain at roi genynnau ar waith neu eu hatal rhag gweithio. Mewn rhai achosion, gall pethau fynd o chwith ac arwain at glefydau megis canser a chyflyrau niwroddirywiol megis clefyd Parkinson.
Mae CEAT, a lansiwyd yn gynnar yn 2019, yn galluogi’r Brifysgol i weithio’n agos gyda’i phartneriaid i ddatblygu cyffuriau sy’n rheoli arwyddion epigenynnol ac y gellir eu targedu at gelloedd canser yr ofari lle cafwyd newidiadau epigenynnol.
Yn Ă´l Cancer Research UK, mae 7,400 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofari yn y DU bob blwyddyn, sef y chweched canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod.
Mae aelodau’r tĂŽm yn datblygu technegau i nodi cleifion a fydd yn cael eu trin â chyffuriau epigenynnol ac anepigenynnol penodol. Erbyn hyn, casglwyd cronfa gynhwysfawr o samplau cleifion, gan gynnwys llinellau celloedd a samplau sy’n gallu gwrthsefyll cemotherapi a rhai nad ydynt yn gallu gwrthsefyll cemotherapi, a lluniwyd amrywiaeth o dechnegau newydd i bennu gwahaniaethau rhwng cleifion ar y lefel epigenynnol.
Meddai Dr Lewis Francis, un o Brif Ymchwilwyr CEAT: âRydym yn falch o ddweud bod y prosiect wedi gwneud cynnydd mawr. Rydym hefyd wedi nodi sawl ymgeisydd addawol i gael cyffuriau sy’n ymgymryd â rhagor o brofion.â
Ychwanegodd yr Athro Deya Gonzalez, sydd hefyd yn un o Brif Ymchwilwyr y prosiect: âMae CEAT hefyd yn mynd ati i ddatblygu cyffuriau gwrthgyrff cyfunedig, sef dosbarth newydd pwerus o driniaethau ym maes oncoleg feddygol, lle mae gwrthgyrff sy’n targedu canserau penodol yn cyfuno â chyfryngau cytotocsig.â
Meddai’r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: âMae’r ffaith bod partneriaid CEAT yn cynyddu eu buddsoddiad yn y prosiect yn dangos bod y tĂŽm yn gwneud cynnydd a bod y canlyniadau wedi bod yn addawol hyd yn hyn.
âMae hyn yn dangos pa mor dda y gallwn weithio gyda diwydiant, yn ogystal â thynnu sylw at y triniaethau a allai achub bywydau sy’n cael eu datblygu.â
Ceir rhagor o wybodaeth am brosiect CEAT drwy e-bostio z.coombes@abertawe.ac.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle