Cyfyngiadau lletygarwch yn “anffodus iawn” meddai Plaid Cymru

0
1941
Plaid Cymru's Helen Mary Jones

‘Lletygarwch yn talu’r pris’ meddai Gweinidog Economi Cysgodol Plaid Cymru, Helen Mary Jones AS

 

Wrth ymateb i’r cyfyngiadau diweddarad ar y sector lletygarwch, meddai Helen Mary Jones AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr economi,

“Galwodd Plaid Cymru ers wythnosau bellach am daliadau wedi’u targedu i fusnesau o Gymru a gafodd eu heffeithio waethaf gan yr argyfwng. Mae’r pecyn hwn i’w groesawu, gan ei fod yn targedu cefnogaeth lle mae ei angen fwyaf yn ystod cyfnod y cyfyngiadau hyn.

“Rhaid rhoi’r arian hwn i fusnesau cyn gynted â phosibl – yn arbennig o bwysig i fusnesau llai a fydd fel arall yn cael problemau gyda llif arian. Dylai awdurdodau lleol hefyd gael digon o gefnogaeth i brosesu a darparu taliadau yn gyflym, a’u hariannu i gyflogi mwy o staff os oes angen. Mae ymgyrch wybodaeth gyhoeddus hefyd yn hanfodol i sicrhau nad yw pobl yn cael eu tynnu at gymdeithasu gartref yn lle.

 

“Mae hyn yn mynd i fod yn hynod heriol i’r sector lletygarwch ac mae’n destun gofid mawr ein bod ni wedi ein cael ein hunain yn y sefyllfa hon. Galwodd Plaid Cymru am fesurau llymach wrth inni ddod allan o’r Toriad Tân – gan gynnwys llacio cyfyngiadau yn fwy graddol a gwneud y gorau o allu profi Cymru er mwyn cael canlyniadau nol mewn 24 awr. Methodd Llafur â gwneud hynny a nawr mae lletygarwch yn talu’r pris.

 

“Mae bellach yn hanfodol eu bod yn cyflwyno profion torfol ym mhob rhan o Gymru, yn cynyddu’r gefnogaeth ariannol i’r rheini sy’n gorfod hunan-ynysu i £ 800 y pen, a chyhoeddi eu cynllun brechu ar gyfer Cymru. Mae’r ansicrwydd llethol a ddaw yn sgil cloi a datgloi yn gwneud niwed mawr i’r economi – mae’n rhaid i ni i gyd ddyblu ein hymdrechion wrth weithio gyda’n gilydd i atal y firws ac osgoi cylch diddiwedd o gloi clo. Ac ni fydd rhai busnesau – yn enwedig busnesau lletygarwch sy’n dibynnu ar dwristiaeth a digwyddiadau ar raddfa fawr – yn gallu gweithredu’n broffidiol nes bod brechlynnau’n cael eu cyflwyno a bod y gwaethaf o’r argyfwng drosodd. Bydd angen cefnogaeth tymor hwy arnyn nhw i ‘aeafgysgu’ i’r gwanwyn, a byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru am gefnogaeth wedi’i thargedu ar eu cyfer.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle