Dymunwn Nadolig Diogel, Iach a Llawen i chi yn 2020

0
584

Wrth i gyfnod yr Ŵyl brysur agosáu, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ein hatgoffa i osod diogelwch ar frig ein rhestr Nadolig eleni.

Pob diwrnod trwy gydol mis Rhagfyr bydd y Gwasanaeth yn agor drws ar ei Galendr Adfent Diogelwch dros y Nadolig rhithwir, ac yn datgelu’r awgrymiadau defnyddiol y dylai pob un ohonom eu dilyn i sicrhau Nadolig llawen, iach a diogel.

Byddwch yn gallu datgloi’r cyngor dyddiol ar ddiogelwch ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Gwasanaeth, a bydd yno hefyd gystadleuaeth â thema dymhorol, gyda nifer o daflenni gwaith llawn hwyl i blant ifanc, ac ambell awgrym diogelwch defnyddiol i’w cadw’n brysur.

Yn ôl Karen Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

“Heb amheuaeth, mae’r Nadolig yn mynd i fod ychydig yn wahanol eleni, ac wrth i ni baratoi ar gyfer y tebygolrwydd y byddwn yn treulio mwy o amser gartref dros yr Ŵyl, mae’n bwysicach fyth i’n hatgoffa ein hunain o gynghorion sylfaenol ar ddiogelwch i sicrhau ein bod yn dathlu mewn modd diogel.

“Mae amryw ohonom wedi dechrau’r dathliadau yn gynnar eleni, ac yn mynd gam ymhellach gyda’r addurniadau, gan ychwanegu rhagor o oleuadau gloyw, addurniadau Nadolig wedi’u pweru a chanhwyllau i greu mwy o awyrgylch. Defnyddir ceblau estyn neu addaswyr 4-ffordd i’r diben hwn yn helaeth yr adeg hon o’r flwyddyn, a hyd yn oed os bydd lle i blygio dyfeisiadau ychwanegol i mewn, dydy hynny ddim yn golygu ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Am fod cyfarpar trydanol gwahanol yn defnyddio meintiau gwahanol o ynni, gallent ordwymo a chynyddu’r risg o dân. Mae canhwyllau yn gallu cynyddu’r risg o dân yn y cartref hefyd, a thra ein bod yn annog pobl i beidio â defnyddio canhwyllau, deallwn fod nifer yn dymuno eu defnyddio am amryw o resymau gwahanol, boed yn rhan o ddathliad crefyddol neu dymhorol, neu, yn syml, i greu arogl pleserus yn y cartref. Mewn achosion o’r fath, byddem yn eich annog i fod yn ddiogel ac i gadw’r canhwyllau yn ddigon pell oddi wrth ddodrefn meddal, a sicrhau eu bod wedi eu diffodd yn llwyr pan fyddwch yn gadael yr ystafell a chyn mynd i’ch gwely.

“Am fod cyfyngiadau yn golygu ein bod yn debygol o fwyta gartref yn fwy na bwyta allan y Nadolig hwn, mae hefyd yn bwysig i ni fod yn wyliadwrus wrth goginio oherwydd, yn anffodus, mae mwyafrif y tanau mewn ceginau yn digwydd o ganlyniad i rywbeth yn tynnu’r sylw, gyda syrthio i gysgu yn ail agos. Ychwanegwch ambell ddiod dymhorol i’r gymysgedd, a gallai achosi trychineb. Nid yn unig y gallai olygu cegin llawn mwg a difrod i’ch eiddo, ond gallai hefyd achosi dinistr, niwed neu anafiadau difrifol.

“Os byddwch allan yn gwneud ychydig o siopa Nadolig munud olaf, neu’n gadael anrhegion i’ch teulu a’ch cyfeillion, cofiwch gymryd gofal ychwanegol wrth yrru mewn tywydd gaeafol; caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith a sicrhewch fod gennych welededd llawn cyn dechrau ar y daith.

“Byddwn yn annog pob un ohonoch i ymuno â ni i agor ein Calendr Adfent Diogelwch dros y Nadolig rhithwir yn y cyfnod cyn y diwrnod mawr, ac i ddilyn ein cynghorion ar ddiogelwch i sicrhau eich bod chi a’ch anwyliaid yn cadw’n ddiogel ac yn iach y Nadolig hwn.”

Rydym hefyd yn eich annog i barhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod yr Ŵyl i sicrhau eich bod yn cadw eich hunain, eich teulu, eich cymdogion a’r gwasanaethau brys yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. I gael rhagor o wybodaeth a negeseuon diogelwch, ewch i’n gwefan www.mawwfire.gov.uk neu dilynwch ni ar ein sianeli Cyfryngau Cymdeithasol: Twitter  @mawwfire, Facebook  @mawwfire and Instagram   mawwfire_rescue.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle