SYG – Ysgolion uwchradd ledled Cymru a Lloegr yn cael eu hannog i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021

0
397

Ysgolion uwchradd ledled Cymru a Lloegr yn cael eu hannog i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awyddus i ysgolion ledled Cymru a Lloegr gofrestru ar gyfer adnoddau addysgol newydd sbon a fydd yn helpu disgyblion i ddysgu am y cyfrifiad, a’i bwysigrwydd i’n bywyd cenedlaethol.

Lansiodd SYG raglen y cyfrifiad i ysgolion uwchradd ym mis Medi i gefnogi Cyfrifiad 2021. Bydd y rhaglen, sydd wedi’i datblygu gan EVERFI EdComs, yn dangos pwysigrwydd y cyfrifiad i fyfyrwyr, a sut y gall data fod o fudd i’w hardaloedd lleol.

Mae mwy na 500 o ysgolion uwchradd ledled Cymru a Lloegr eisoes wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen sydd am ddim, ac mae’n bosibl cofrestru ar gyfer y cyfle unigryw hwn o hyd.

Meddai Iain Bell, dirprwy ystadegydd gwladol SYG: “Rydym am ennyn diddordeb disgyblion ysgol yng Nghymru a Lloegr yn y cyfrifiad, gan wneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant ysgubol drwy wneud hynny. Mae ein rhaglenni i ysgolion yn cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr ddysgu am bwysigrwydd y cyfrifiad. Byddant yn helpu myfyrwyr i ddysgu mwy am fathemateg a’u hardal leol eu hunain, ac yn codi ymwybyddiaeth o’r cyfrifiad, sy’n llywio penderfyniadau ar lawer o faterion pwysig fel nifer y lleoedd mewn ysgolion neu nifer y gwelyau mewn ysbytai. Os nad yw eich ysgol wedi cofrestru eto, gwnewch hynny da chi.”

Bellach, lansiwyd set o adnoddau newydd sbon ar gyfer y rhaglen, gan gynnwys gwersi manwl sy’n benodol i bynciau cwricwlaidd megis mathemateg, daearyddiaeth a hanes.

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr archwilio patrymau newidiadau yn eu cymunedau a nodi themâu daearyddol a hanesyddol a all fod wedi eu hachosi. Gofynnir i fyfyrwyr holi aelod o’r teulu neu’r gymuned er mwyn darganfod stori maent am ei hadrodd, ac yna byddant yn mynd ati i greu arddangosfa fel grŵp i weld sut mae eu stori unigol yn rhan o ddarlun mwy.

Bydd y wers fathemateg ryngweithiol newydd sydd ar gael hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatrys amrywiaeth o broblemau data graffigol, ac ystyried pwysigrwydd data wrth wneud penderfyniadau yn y byd go iawn. Bydd y wers fathemateg yn defnyddio ynys ffuglennol ‘Ynystadegau’ i ddod â’r cyfrifiad yn fyw, a helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau datrys problemau.

Mae’r rhaglen i ysgolion uwchradd wedi cael ei chreu ar y cyd ag athrawon a myfyrwyr ledled Cymru a Lloegr. Nod y rhaglen yw ennyn diddordeb pobl ifanc, gan eu grymuso i ddefnyddio eu lleisiau i annog eu teuluoedd a’u cymuned i gwblhau’r cyfrifiad. Byddant yn edrych i weld beth sy’n bwysig i’w cymunedau a phwysigrwydd data’r cyfrifiad wrth wneud penderfyniadau cenedlaethol a lleol.

Ychwanegodd Nick Fuller, Llywydd EVERFI EdComs: “Mae’n wych gweld ymateb mor gadarnhaol o blith ysgolion ar gam mor gynnar o’r rhaglen hon, ac mae EVERFI EdComs wrth ei fodd yn cael y cyfle i rannu ei arbenigedd â thîm yr ymgyrch wrth gynnwys ysgolion uwchradd. Rydym am sicrhau bod pobl ifanc a’u teuluoedd yn deall beth mae Cyfrifiad 2021 yn ei olygu iddyn nhw, a chwblhau’r cyfrifiad cyntaf a gynhelir ar lein yn bennaf ledled Cymru a Lloegr.”

Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch i ysgolion yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cyfrifiad digidol yn gyntaf, a fydd yn digwydd ar 21 Mawrth 2021 yng Nghymru a Lloegr. Caiff y cyfrifiad ei gynnal unwaith bob deng mlynedd ac mae’n cynnig ciplun o gartrefi sy’n helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Gall ysgolion gofrestru ar gyfer y rhaglen drwy fynd i cyfrifiad.gov.uk/addysg


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle