Defnyddiwch offeryn storio data diogel ar-lein Cyswllt Ffermio ‘Storfa Sgiliau’ pan fydd arnoch angen tystiolaeth o ffermio moesegol, cynaliadwy ar gyfer cynlluniau sicrwydd fferm

0
402

Mae pob ffermwr yn gwybod eu bod yn gwneud gwaith gwych.  Yn anffodus, nid yw gwneud gwaith gwych yn ddigon bob amser, mae arnoch angen prawf!   Mae ffermwyr yn gynyddol yn gorfod darparu tystiolaeth bod eu busnes fferm yn cyrraedd y gofynion, eu bod yn cadw at y safonau uchaf un ar draws pob maes gwaith a chynhyrchiant, yn arbennig os ydyn nhw’n rhan o gynllun gwarant fferm.  

Erbyn hyn mae iechyd a lles anifeiliaid, cynaliadwyedd, ymrwymiad i leihau nwyon tŷ gwydr a systemau ffermio moesegol yn gyfartal ag ansawdd a phris ar gyfer cwsmeriaid craffach heddiw. Mae ffermwyr yn gorfod darparu prawf bod eu gwybodaeth am yr arferion da yn gyfredol a’u bod yn eu gweithredu, yn arbennig os yw eu cwsmeriaid yn cynnwys unrhyw gyfanwerthwyr mawr neu fanwerthwyr.    

I un ffermwr llaeth o Sir Benfro, Jonathan Morgan, sy’n cadw buches o 250 o fuchod croes Holstein ar y fferm 420 erw sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â’i dad George a’i chwaer Rachel yn Houghton, roedd y ‘Storfa Sgiliau’ ar-lein gan Cyswllt Ffermio yn cynnig dull argraffu cyflym, yr union dystiolaeth oedd ei hangen pan ddaeth arolygwr o un o’r ‘pump mawr’ o archfarchnadoedd ar ymweliad i archwilio heb rybudd! 

Roedd Jonathan, y mae ei deulu wedi ffermio fferm Mead Lodge ers dwy genhedlaeth, wedi trefnu i’w stocmon, Liam Bowie, ddilyn gweithdy iechyd anifeiliaid wedi ei ariannu’n llawn gan Cyswllt Ffermio ar ‘Leihau cloffni mewn gwartheg llaeth’ ar ddiwedd 2019.  

“Fe wnes i awgrymu y dylai Liam ddilyn yr hyfforddiant hwn, oedd yn cael ei ddarparu gan bractis milfeddygol lleol, i’w helpu i ddynodi a rheoli unrhyw broblemau cyn iddyn nhw effeithio ar unrhyw fuchod a’n cynnyrch llaeth.”  

Mae’r llaeth a gynhyrchir, sydd tua 2.2 miliwn litr y flwyddyn ar hyn o bryd, i gyd yn cael ei anfon i First Milk i’w brosesu yn gaws yn eu ffatri yn Merlin’s Bridge, cyn cael ei becynnu a’i anfon i archfarchnadoedd trwy’r Deyrnas Unedig.

Yr hyn nad oedd Jonathan wedi ei sylweddoli cyn iddo ofyn am gyngor gan ei swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Susie Morgan, oedd, oherwydd bod yr hyfforddiant wedi ei ddarparu gan Cyswllt Ffermio, bod ‘tystysgrif presenoldeb’ Liam yn cael ei huwchlwytho yn awtomatig i’w gyfrif Storfa Sgiliau personol ac yn barod i’w hargraffu neu ei hanfon ymlaen i unrhyw un oedd â diddordeb.

Esboniodd Susie bod ‘Storfa Sgiliau’ yn offeryn ar-lein diogel sy’n galluogi pob unigolyn sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio i gael mynediad at naill ai adroddiad y gellir ei lawrlwytho neu un digidol yn nodi ei sgiliau, hyfforddiant a llwyddiannau academaidd neu broffesiynol perthnasol.

“Bydd yr holl gyrsiau hyfforddi Cyswllt Ffermio y byddwch wedi eu cwblhau a’r tystysgrifau a enillwyd, ynghyd â’r holl weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth y byddwch wedi eu mynychu yn cael eu huwchlwytho i chi, ac mae adran hefyd o’r enw ‘Fy Lle’ ar Storfa Sgiliau, lle gallwch ychwanegu unrhyw wybodaeth yr ydych chi am ei chofnodi eich hun.”

Dywedodd Peter Llewellin, rheolwr aelodaeth First Milk bod y Storfa Sgiliau yn offeryn gwych i aelodau a staff First Milk ei ddefnyddio a’i fod wedi gweithio’n dda iawn i’r teulu Morgan yn ystod eu harchwiliad yn ddiweddar.

“Mae sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi a bod cofnodion cywir yn cael eu cadw o’r holl hyfforddiant a phob presenoldeb ar gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus yn dod yn gynyddol bwysicach.

“Dylai offeryn hawdd ei ddefnyddio ar-lein fel Storfa Sgiliau fod yn ased mawr i bob ffermwr.”

Am ragor o wybodaeth am ddatblygiad proffesiynol parhaus a Storfa Sgiliau ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio

Ariennir Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle