RYDYM AM GAEL EICH BARN: AROLWG #eichtrefeichdyfodol WEDI’I GYHOEDDI I GLYWED AM EFFAITH COVID-19 ARNOCH CHI A’CH CANOL TREF LLEOL

0
1240

Mae Archwilio Cymru am glywed eich barn ar beth sydd angen newid yn eich canol tref lleol

Mae Archwilio Cymru yn edrych ar ba mor dda y mae canol trefi ledled Cymru yn ymdopi ag effaith pandemig COVID-19. Mae’r adolygiad am gael cymorth gan gymunedau ledled Cymru i ddarganfod sut y gallwn adfywio canol trefi’n llwyddiannus.

Mae canol trefi wedi bod wrth galon cymunedau Cymru ers dros 150 o flynyddoedd yn darparu gwasanaethau hanfodol ond hefyd yn rhoi ymdeimlad o berthyn i bobl. Mae gan rai o’n trefi ganol ffyniannus tra bod eraill wedi bod yn dirywio ers degawdau. Mae twf siopa ar-lein a siopau y tu allan i’r dref wedi effeithio’n sylweddol ar ganol trefi yn ddiweddar.

Mae COVID-19 wedi cyflwyno heriau newydd i fusnesau, manwerthwyr, cyrff cyhoeddus, aelodau etholedig a swyddogion cyngor ledled y wlad ac wedi creu ansicrwydd i bob un ohonom.

Gwyddom, er mwyn adfywio canol ein trefi’n llwyddiannus a sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, rhaid i fusnesau a gwasanaethau ffynnu. Er mwyn helpu Archwilio Cymru i ddarganfod sut beth yw hi ar lawr gwlad, mae angen i aelodau o’r cyhoedd a busnesau rannu eu barn a’u profiadau ar:

  • beth sy’n gwneud eich tref leol yn lle gwych i ymweld ag ef a siopa ynddi;
  • pa newidiadau yr hoffech eu gweld yn digwydd yn eich tref leol; a
  • pha gamau y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer y dyfodol.

Bydd yr arolwg yn rhedeg o ganol mis Tachwedd tan ddiwedd mis Ionawr. Bydd y wybodaeth a gesglir o’r arolwg yn helpu Archwilio Cymru i ddeall yr heriau a’r anawsterau sy’n wynebu trefi ledled Cymru a bydd yn helpu i lywio ein hargymhellion ar yr hyn sydd angen ei wneud.

Gallwch gwblhau’r arolwg byr, dienw drwy ymweld â’n gwefan lle mae dolenni i’r arolwg a rhagor o wybodaeth.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, heddiw: “Mae canol trefi ffyniannus yn elfen hanfodol i unrhyw gymuned. Mae dros 140 o drefi ledled Cymru sy’n gorfod addasu ar hyn o bryd i heriau pandemig COVID-19 a’r newidiadau mawr yn sut y mae pobl yn siopa ac yn ymweld â chanol eu trefi. Mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud y dewisiadau cywir yn y dyfodol i sicrhau bod canol trefi yn parhau i ddatblygu ac addasu i amgylchiadau sy’n newid. Rwy’n annog pobl o bob cwr o Gymru i gwblhau ein harolwg a rhoi eich barn i ni am ganol eich tref leol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle