Annog pobl i lywio Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru

0
481

Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar bobl, busnesau a sefydliadau ar draws Cymru i helpu i lywio strategaeth newydd a fydd yn nodi sut y gall systemau digidol, data, technoleg a deallusrwydd artiffisial wella bywydau, sbarduno cynaliadwyedd a thyfu’r economi.

Bydd cyfres o flogiau gan gyfranwyr megis Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters a Phrif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru, Glyn Jones yn helpu i lywio’r sgwrs.

Mae Llywodraeth Cymru am i bobl fynegi sylwadau ar y blogiau a rhoi adborth, a fydd yn hanfodol i ddatblygu’r strategaeth. Y nod yw cyhoeddi fersiwn derfynol y flwyddyn nesaf.

Bydd y strategaeth newydd yn helpu i sicrhau y bydd pobl yng Nghymru yn gallu manteisio ar wasanaethau cyhoeddus modern, effeithlon a chyson, gan ysgogi arloesedd yn economi Cymru ar yr un pryd.

Mae gan y strategaeth chwe chenhadaeth:

• Gwasanaethau digidol
Darparu a moderneiddio gwasanaethau i gyfres gyffredin o safonau fel eu bod yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus

• Economi ddigidol
Sbarduno twf economaidd, cynhyrchiant a chydnerthedd drwy gynnwys a defnyddio arloesedd digidol

• Sgiliau digidol
Creu cymdeithas a gweithlu sy’n effeithlon, yn wybodus, yn gydweithredol ac yn gallu rhyngweithio’n ddiogel mewn byd digidol

• Cynhwysiant digidol
Rhoi’r cymhelliant, y mynediad, y sgiliau a’r hyder i bobl gysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion

• Cysylltedd digidol
Bod seilwaith cyflym a dibynadwy yn cefnogi gwasanaethau

• Data a chydweithio
Gwella gwasanaethau drwy gydweithio, gan ddefnyddio a rhannu data a gwybodaeth

Bydd blogiau yn cael eu postio ar-lein am bob cenhadaeth dros y misoedd nesaf i helpu i esbonio canlyniadau y bwriada Llywodraeth Cymru eu cyflawni a rhai o’r camau gweithredu a nodwyd a fydd yn sicrhau hynny.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters: “Mae’n amlwg bod offer digidol, ffyrdd o weithio a thechnolegau yn newid pob rhan o’n bywydau – sut rydym yn byw, gweithio a chysylltu â’n gilydd – ac nid yw hynny erioed wedi bod yn fwy amlwg nag yn ystod pandemig y coronafeirws.

“Bydd y strategaeth hon yn hollbwysig wrth lunio sut rydym yn defnyddio systemau digidol, data, technoleg a deallusrwydd artiffisial yn effeithiol nawr ac yn y dyfodol er budd pobl yng Nghymru.

“Mae gennym gyfle gwirioneddol yma i ddefnyddio pŵer digidol i wella ein gwasanaethau cyhoeddus a chreu diwylliant o arloesi a chydweithredu.

“Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn y maes hwn, ond yn sicr mae llawer mwy i’w wneud.

“Er bod gan Lywodraeth Cymru rôl arweiniol glir o ran cyflawni, yr hyn sy’n amlwg yw na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Dyna pam rydym yn annog ein dinasyddion, ein busnesau a’n sefydliadau i gymryd rhan a rhoi adborth ac awgrymiadau a fydd yn bwysig wrth lunio’r cynllun hwn.

“Mae newid yn digwydd yn gyflym a thrwy gydweithio gallwn sicrhau bod newid o fudd i ni fel cenedl.”

Mae’r blogiau ar ddatblygu Strategaeth Ddigidol i Gymru i’w gweld yn: https://digidoladata.blog.llyw.cymru/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle