Mae ymgyrchydd cyfiawnder ac ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi sicrhau gwell arferion gwaith yn y gwasanaeth prawf.
Wedi’i gymell gan y brofiad erchyll o’i mab 18 oed yn cael ei lofruddio gan gyn-droseddwr ar brawf, mae Nadine Marshall a’i theulu wedi ymgyrchu’n ddi-baid i newid arferion gwaith i atal trasiedi arall.
Ymosodwyd ar Conner Marshall a’i guro i farwolaeth ym Mae Trecco ym Mhorthcawl ym mis Mawrth 2015 gan David Braddon. Roedd Braddon o dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf ond roedd wedi methu chwe apwyntiad adsefydlu ac roedd ganddo sawl euogfarn gan gynnwys trais domestig a throseddau cyffuriau nad oedd y gwasanaeth prawf yn ymwybodol ohonynt. Mae Braddon bellach yn bwrw dedfryd oes ar ôl pledio’n euog i’r llofruddiaeth. Ers y digwyddiad, mae Nadine – sy’n dod o Fro Morgannwg ac yn sefyll i’w hethol yn gomisiynydd Heddlu De Cymru – wedi brwydro i sicrhau bod anghenion dioddefwyr a’u teuluoedd yn cael eu rhoi yng nghannol arferion gwaith y gwasanaeth prawf.
Mae adolygiad o’r Gweithdrefnau Hysbysu ac Adolygu ar gyfer Troseddau Difrifol Pellach gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf yn gynharach y mis hwn wedi gwireddu nod y teulu Marshall.
In a document produced by HM Prison and Probation Service, it says:
Mewn dogfen a luniwyd gan y Wasanaeth Carchardai a Phrawf, dywed:
“Wrth ddiwygio’r Cyfarwyddyd Prawf hwn, hoffai Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi gydnabod gwaith Nadine Marshall er cof am ei mab Conner, a oedd yn ddeunaw oed, pan lofruddiwyd ef ym mis Mawrth 2015 gan droseddwr a oedd o dan goruchwyliaeth prawf yn y gymuned.
“Mae Mrs Marshall wedi ymgyrchu’n galed i gael mwy o fynediad at wybodaeth a thryloywder ar gyfer dioddefwyr yn dilyn TDP, gan gysegru ei hamser a’i hegni i sicrhau bod teuluoedd mewn profedigaeth yn cael gwybodaeth amserol a thryloyw, mewn modd sensitif, pan fydd troseddwr sydd o dan goruchwyliaeth yn mynd ymlaen i lladd.
“Roedd ei gwaith, er anrhydedd i Conner, yn rym wrth agor y broses adolygu TDP, a chreu fformat adolygiad TDP newydd – sydd bellach yn cael ei rannu gyda dioddefwyr yn dilyn euogfarn lle mae achos yn sbarduno adolygiad TDP awtomatig.
“Mae’r Gwastanaeth Prawf wedi gweithio gyda Mrs Marshall i adolygu’r canllawiau ar ymgysylltu â dioddefwyr, ac mae hi wedi darparu mewnwelediadau amhrisiadwy i anghenion a theimladau dioddefwyr, yn deillio o’i phrofiad ei hun ers marwolaeth drasig Conner. Mae’r newidiadau hyn i’r canllawiau yn etifeddiaeth barhaol i Conner. “
Dwedodd Nadine Marshall:
“Rwy’n falch o’r newidiadau rydw i wedi gallu eu gwneud. Er gwaethaf gwrthwynebiadau, roeddwn yn benderfynol o newid system nad oedd yn gweithio er budd cleientiaid na chymunedau.
“Bydd y newidiadau a wneir nawr yn sicrhau na fydd yn rhaid i unrhyw deulu arall ymladd am bum mlynedd i wybod sut a pham y cafodd eu hanwylyd ei niweidio neu ei lofruddio. Bydd cael mynediad at wybodaeth nawr yn arferol ac yn hawl i deulu pob dioddefwr. “
Rhondda MS and former probation officer Leanne Wood said:
Dywedodd Leanne Wood, AS Rhondda a chyn-swyddog prawf:
“Mae hwn yn gyflawniad gwych gan Nadine. Dylai ei gwaith ymgyrchu aruthrol sicrhau y bydd dioddefwyr troseddau difrifol a theuluoedd dioddefwyr ar flaen meddyliau a gweithredoedd swyddogion prawf.
“Mae hi wedi dangos dycnwch a phenderfyniad anhygoel i newid pethau er gwell – dau rinwedd a fydd yn sefyll iddi hi, a’r cyhoedd, mewn lle da os caiff ei hethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd nesaf Heddlu De Cymru.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle