Dathlu’r Nadolig gyda Charolau yn eich cartref

0
373

Ar draws Prydain bydd cynifer o bobl yn colli eu Cyngerdd neu Wasanaeth Carolau traddodiadol. Fodd bynnag gallwch ddal i fwynhau cerddoriaeth y Nadolig a’r carolau hoff yng nghysur eich cartref eich hun gyda gwahoddiad cynnes gan Elusen Golden-Oldies.

Cafodd ‘Goldies’, fel y caiff ei alw fel arfer, ei orfodi i ganslo sesiynau cyd-ganu HWYL yn ystod y dydd oherwydd y pandemig Coronafeirws ym mis Mawrth. Fe wnaeth wedyn lansio ei sesiynau ar-lein a ddatblygodd i gael eu cynnal ddwywaith yr wythnos dan arweiniad Rachel Parry a Cheryl Davies, dwy o arweinwyr sesiwn poblogaidd Goldies.

Buont yn cydweithio i baratoi cyngerdd Nadolig arbennig iawn a fydd ar gael i bawb ei fwynhau o 11am ddydd Iau 24 Rhagfyr – Noswyl Nadolig – a bydd yn cynnwys darnau Nadoligaidd poblogaidd yn ogystal â llawer o negeseuon gan arweinwyr sesiynau ledled Cymru a Lloegr yn ogystal â pherfformiad gan blant Ysgol Gynradd Llanedeyrn.

Sefydlwyd Goldies gan Grenville Jones. Dywedodd:

“Bydd yn rhwydd dod o hyd i’r gwasanaeth ar YouTube a chaiff ei ddangos yn glir ar 

www.goldieslive.com o 11am ar Noswyl Nadolig. Ac, wrth gwrs, gall unrhyw un fynd yn ôl ac ail-edrych ar y darllediad unrhyw amser, efallai gyda pherthnasau a chyfeillion. Caiff geiriau’r caneuon eu gweld ar y sgrin felly gobeithiwn y bydd pobl yn gwisgo eu siwmperi a’u hetiau Nadolig a, gan y bydd geiriau’r caneuon ar y sgrin, nid oes unrhyw esgus i beidio cymryd rhan.”

Cynhelir sesiynau GoldiesLive bob dydd Mawrth a dydd Iau ac mae gan yr Elusen gynlluniau i ddatblygu a pharhau â’r rhain drwy fisoedd y Gaeaf ac ymlaen i 2021.

Nadolig ‘Goldies’ Hapus i bawb.

Clywch ein gwesteion arbennig, plant Côr Ysgol Gynradd Llanedeyrn yn canu ar gyfer ein Dathliad Nadolig www.goldieslive.com


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle