Bwrdd Iechyd yn apelio am gefnogaeth y cyhoedd i leddfu’r pwysau ar ysbytai

0
347

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn apelio am gefnogaeth y cyhoedd gan fod ei ysbytai yn gweithredu dan bwysau eithafol. Er bod lefelau gweithgarwch yn uchel yn y gaeaf, mae eleni yn cynnwys heriau ychwanegol y pandemig COVID-19, gan gynnwys prinder staff clinigol.

Mae’r bwrdd iechyd wedi ymateb i achosion o’r feirws ym mhob un o’i ysbytai cyffredinol acíwt, gan arwain at gau rhai wardiau ym mhob ysbyty acíwt yn ardal Hywel Dda yn ystod y mis diwethaf.

Yn y cyfamser, cyhoeddodd y bwrdd iechyd ei fod yn trosglwyddo’r holl gleifion o Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri i Ysbyty Dyffryn Aman yn Glanaman, ger Rhydaman, gan fod nifer o aelodau staff, gan gynnwys nyrsys, yn y ddau ysbyty yn hunan-ynysu ar ôl profi’n bositif am COVID-19. Arweiniodd hyn at gyfyngiadau sylweddol ar y gweithlu ar y ddau safle, a olygodd bod cynnal gwasanaethau ysbyty cymunedol a nyrsio cymunedol wedi mynd yn rhy heriol.

Mae trosglwyddiad y feirws yn y gymuned hefyd yn uchel iawn ar draws y tair sir. Yn y saith diwrnod ddiwethaf, nifer yr achosion o COVID-19 yn Sir Gaerfyrddin oedd 305.7 i bob 100,000 o’r boblogaeth, 165.1 i bob 100,000 yng Ngheredigion a 170.1 ym mhob 100,000 yn Sir Benfro.

Oherwydd yr heriau hyn, mae’r bwrdd iechyd mewn sefyllfa anodd iawn gan nad yw’n medru staffio’r holl welyau y byddai fel arall disgwyl iddynt fod ar agor ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Yn ogystal, bu’n rhaid iddo drosglwyddo rhai staff a chleifion i ysbytai maes yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Felly, mae angen help y cyhoedd ar y bwrdd iechyd i leddfu’r pwysau ar y gwasanaeth.

 

  • I gael gofal brys ac mewn argyfwng yn unig, ffoniwch 999 – mae ysbytai yn parhau i weld cleifion sydd ag anghenion meddygol argyfyngol, yn ogystal â chleifion sydd ar lwybrau gofal canser y gofynnwyd iddynt fynychu. Yn ein hysbytai, mae mesurau ar waith y cynlluniwyd i gadw cleifion mor ddiogel â phosib, ac mae pobl yn cael eu hannog i geisio sylw meddygol os oes ei angen arnynt. 
  • Os oes gennych angen nad yw’n argyfwng, ceisiwch ofal meddygol nad yw’n Uned Achosion Brys megis ffonio 111, ymweld â’ch fferyllfa leol neu ffonio eich meddygfa. 
  • Gall teuluoedd sydd â pherthnasau mewn ysbyty sydd wedi profi’n negative am COVID-19 ac sy’n feddygol addas i gael eu rhyddhau o ysbyty, chwarae rhan hanfodol yn ein helpu trwy gynorthwyo’r broses o ryddhau o ysbyty i’r cartref – ffoniwch Brif Nyrs y ward i drafod anghenion unigol. 
  • Diogelu’r Gwasanaeth Iechyd – a helpu i achub bywydau. Dilyn arweiniad y llywodraeth a Cadw Cymru yn Ddiogel trwy aros allan o gartrefi ein gilydd, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn; cyfyngu faint o bobl rydych chi’n cwrdd â nw; cynnal pellter cymdeithasol; golchi’ch dwylo’n rheolaidd, a gweithio o gartref os gallwch chi. Hefyd, os oes gennych symptomau, arhoswch gartref, archebwch brawf a dim ond gadael gartref i gael eich prawf. Am fwy o wybodaeth ewch i Coronavirus (COVID-19) | Topic | GOV.WALES

 

Meddai Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae nifer o frechlynnau’n cael eu datblygu ac mae’r newyddion am gymeradwyo un o’r rhain yn ddatblygiad cadarnhaol iawn. Ond, mae’n hanfodol i’r cyhoedd ddeall ein bod yn dal i fod ar bwynt peryglus iawn yng nghylch y pandemig ac mae cryn dipyn i’w wneud eto cyn y gallwn ddychwelyd i normalrwydd.

“Rydym yn delio â llawer mwy o achosion COVID-19 yn ein hysbytai nag yn y gwanwyn. Yn anffodus, mae hyn hefyd wedi effeithio ar ein gweithlu ac wedi effeithio’n ddifrifol ar ein capasiti a rhwystro ein cynlluniau uwchgyfeirio.

“Er ein bod yn hyderus bod nifer yr achosion datganedig mewn ysbytai bellach yn gostwng, a’n bod yn gallu glanhau wardiau yn ddwfn a’u hail-agor yn ddiogel, y broblem fwyaf sy’n ein hwynebu o hyd yw salwch staff. Mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar ein gallu i ddarparu gofal i bawb ond y rhai â chyflyrau meddygol argyfyngol / brys, neu’r rhai hynny sy’n defnyddio gwasanaethau canser. Mae angen i ni sicrhau bod y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn ddiogel ac yn cael eu blaenoriaethu o ran angen clinigol, fel bod staff yn gweithredu’n ddiogel.

“Rwyf am fod yn glir iawn y byddwn yn dod trwy hyn, ond mae angen help y cyhoedd arnom nawr i atal trosglwyddo’r feirws yn ein cymuned a rhoi cyfle i’n gweithlu wella, fel eu bod yn gallu darparu gofal diogel ac effeithiol i’n cleifion.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle