Seren ‘Gavin and Stacey’, Joanna Page, i arwain ymgyrch arwyr cymunedol Cyfrifiad 2021

0
676
Joanna Page

I ddathlu Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr, mae cystadleuaeth wedi cael ei lansio i ddod o hyd i arwyr diymhongar ein cymunedau. Gosodir plac porffor unigryw i nodi cyfraniadau 22 o bobl, un am bob cyfrifiad sydd wedi’i gynnal hyd yn hyn.

Bydd y placiau porffor eiconig, yn lliw brand Cyfrifiad 2021, yn gallu cael eu gosod ar neu yng nghartref neu weithle’r arwr, neu adeilad yn y gymuned, yn dibynnu ar yr hyn y bydd yn ei ddymuno a’r hyn y mae hawl i’w wneud.

O athro neu athrawes ysgol sydd wedi trawsnewid bywydau, i feddyg sydd wedi achub bywydau; mae cymunedau ym mhob man yn llawn pobl gyffredin sy’n gwneud pethau anhygoel.

Gofynnir i bobl enwebu eu harwyr cymunedol drwy www.cyfrifiad.gov.uk/arwyr-cyfrifiad-2021 

Close up Census Community Heroes Plaque

Gellir enwebu arwyr tan 31 Rhagfyr a bydd panel o eiriolwyr cymunedol, a arweinir gan yr actores a’r cyflwynydd teledu, Joanna Page, yn dewis yr enillwyr.

Caiff y placiau eu rhoi yn eu lle cyn diwrnod y cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021.

Mae’r cyfrifiad yn arolwg a gynhelir yng Nghymru a Lloegr, ac mae wedi’i gynnal bob 10 mlynedd ers 1801 (heblaw am 1941). Mae’r cyfrifiad yn helpu i lywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Joanna Page:

“Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i bob un ohonom ni. Bydd y Placiau Porffor yn ffordd barhaol o ddathlu’r bobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn eu cymunedau.

“Nod y cyfrifiad yw helpu i greu cymunedau cryf a ffyniannus, felly mae’n briodol dathlu’r bobl hynny sy’n gwneud eu hardaloedd lleol mor arbennig.

“Cymerwch ran da chi, a cheisiwch feddwl pwy sy’n haeddu cael plac porffor yn y gymuned.”

Dywedodd Pete Benton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Cyfrifiad ac Arolygon SYG:

“Mae’r cyfrifiad yn ddigwyddiad hollbwysig sy’n helpu i lywio’r gwasanaethau hanfodol mae pawb yn dibynnu arnyn nhw bob dydd yn ein cymunedau. Drwy chwilio am Arwyr Cymunedol y Cyfrifiad, gallwn ni i gyd gydnabod cryfder cymunedau ym mhob man.

“Edrychaf ymlaen at weld yr enwebiadau a dathlu’r bobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i’w hardaloedd nhw.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle