Canolfan wybodaeth a chyngor yn agor i helpu cludwyr ar ddiwedd y cyfnod pontio o’r Undeb Ewropeaidd

0
925

Heddiw, mae canolfan wybodaeth a chyngor newydd ar gyfer cludo nwyddau i’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwedd y cyfnod pontio o’r Undeb Ewropeaidd wedi agor yng ngwasanaethau Pont Abraham yn Sir Gaerfyrddin, yn gwasanaethu cludwyr ar gyfer Abergwaun a Doc Penfro.

Bydd yn safle gwybodaeth yn galluogi i gludwyr nwyddau i drafod gyda staff hyfforddedig y newidiadau i’r gweithdrefnau tollau fydd yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod pontio, a’r hyn maent yn ei olygu iddyn nhw.

Mae’r fenter hon, sydd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac Adran Drafnidiaeth y Deyrnas Unedig, yn cynnig mynediad i wybodaeth mewn cyfnod o newid ac ansicrwydd sylweddol.

O fis Ionawr, bydd y safleoedd yn galluogi i Gludwyr weld os ydynt wedi cwblhau y gwaith papur perthnasol, a thrwy hynny, bydd yn lleihau y risg y cânt eu troi i ffwrdd o’r porthladd.

Yn flaenorol, cyhoeddodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU 45 o safleoedd gwybodaeth cludo ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys un yng Nghymru sydd yn gwasanaethu Caergybi. Mae’r penderfyniad i ddarparu cyllid ar gyfer safle gwybodaeth ychwanegol ym Mhont Abraham yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r potensial o darfu mewn porthladdoedd yng Nghymru ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Mae’r safle gwybodaeth wedi ei leoli mewn man strategol ar gyfer symud nwyddau i dde’r Iwerddon gan y bydd yn gallu gwasanaethu cludwyr sy’n teithio i Abergwaun a Doc Penfro.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae hwn yn ychwanegiad hanfodol at gefnogi parodrwydd a chydnerthedd cludwyr yn ystod cyfnod o her sylweddol i’r diwydiant logisteg cyfan – a’r masnachwyr sy’n dibynnu arnynt.

“Yn 2019, Iwerddon oedd y 5ed marchnad allforio fwyaf y Deyrnas Unedig a’r 9fed ffynhonnell fwyaf o fewnforion. Bydd masnachwyr sydd wedi’u lleoli ar hyd y coridorau deheuol yn defnyddio’r llif rhwng De Orllewin Cymru a Rosslare ac felly mae’n bwysig cynnig pwynt gwybodaeth iddynt yn agos at y porthladdoedd.”

Bydd y staff yn cynnig hyfforddiant un i un ar y gwasanaeth newydd ‘Check an HGV’ a’r newidiadau sydd ar ddod i brosesau ffiniau.

Bydd y gefnogaeth hefyd ar gael i gludwyr mewn Cymraeg, Saesneg, Pwyleg, Rwmaneg ynghyd â nifer o ieithoedd eraill yr UE yn ogystal â Thyrceg a Rwseg.

Mae Adran Drafnidiaeth y DU hefyd wedi datblygu ac adnewyddu Llawlyfr Cludo sydd ar gael i gynnig help a chyngor i gludwyr nwyddau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle