Llywodraeth Cymru a Seafish yn cyhoeddi cymorth ar ffurf cyllid er mwyn sicrhau bod ffermio pysgod cregyn a chasglu cocos yn fwy diogel

0
471
Gweithwyr yn cael arian i brynu Dyfeisiau Arnofio Personol sy’n gallu achub bywydau yn dilyn marwolaeth dau weithiwr casglu cocos yng Nghymru yn ddiweddar

Mae cyllid ar gael i ffermwyr pysgod cregyn a gweithwyr casglu cocos yng Nghymru er mwyn iddynt allu prynu offer diogelwch i’w cadw yn fwy diogel wrth iddynt weithio ar yr arfordir.  Mae hyn yn dilyn marwolaeth drasig dau bysgotwr cocos yn gynharach eleni.

Bydd Seafish, y corff cyhoeddus sy’n cynorthwyo’r diwydiant bwyd môr yn y DU, yn gweinyddu gwerth dros £70,000 a roddir gan Lywodraeth Cymru.  Bydd y cyllid yn helpu gweithwyr rhynglanwol masnachol yng Nghymru i brynu Dyfais Arnofio Bersonol (PFD) gyda  Dyfais Leoli Bersonol (PLB).  Gallant hawlio £360 tuag at gost pob PFD gyda PLB.

Dywedodd Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Mae’n bleser gennyf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu dros £70,000 tuag at ddarparu dyfeisiau arnofio personol gyda dyfeisiau lleoli personol, gyda gostyngiad sylweddol, i bysgotwyr cocos a gweithwyr dyframaethu rhynglanwol.

“Yn wahanol i bysgotwyr ar longau trwyddedig, nid oes unrhyw rwymedigaeth cyfreithiol ar gasglwyr rhynglanwol i wisgo siaced achub wrth iddynt weithio.  Mae’r rhain yn swyddi peryglus iawn ac rydw i’n rhoi anogaeth gref i weithwyr rhynglanwol i fanteisio ar y gostyngiad hwn er mwyn cadw mor ddiogel ag y bo modd.”

Dywedodd Dr Lynn Gilmore, Pennaeth Masnach Ryngwladol a Rhanbarthau y DU i Seafish:

“Helpom i gyflwyno cynllun tebyg i berchnogion llongau pysgota masnachol yn 2018, gan ddefnyddio cronfeydd Llywodraeth Cymru a Morwyr, a gwelwyd nifer fawr yn manteisio ar hwn, tua 90% o’r fflyd.  Mawr obeithiwn y bydd y cynllun hwn ar gyfer casglwyr cocos a ffermwyr pysgod cregyn yr un mor llwyddiannus.  Nid ydym yn dymuno colli rhagor o fywydau ac mae cael PFD gyda PLB yn gallu gwneud cymaint o wahaniaeth mawr os byddwch yn mynd i drafferthion.”

Er mwyn bod yn gymwys i gael y cyllid, rhaid i bob ymgeisydd wneud cais i Seafish am gymeradwyaeth cyn prynu’r PFD gyda PLB y maent yn ei ffafrio, a gwneud hawliad.  Bydd y ffenestr ymgeisio ar agor rhwng dydd Llun 14 Rhagfyr a dydd Gwener 15 Ionawr.

I wneud cais am gyllid, dylech lawrlwytho’r ffurflen gais sydd ar gael yma ar wefan Seafish, ei llenwi a’i hanfon mewn neges e-bost at walesfishingsafety@seafish.co.uk.  Ni dderbynnir ceisiadau hwyr, ac ni chaiff cyllid ei ôl-ddyfarnu neu ei roi i unrhyw ymgeiswyr y maent wedi cael cymorth i brynu PFDs gyda PLBs yn flaenorol, yn ystod y dair blynedd ddiwethaf.

Mae’r diwydiant bwyd môr yng Nghymru yn cefnogi’r prosiect hefyd.

Dywedodd Jon Parker, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori Bwyd Môr Cymru (SWAC):

“Yn dilyn llwyddiant y cynllun diwethaf wrth wella diogelwch ymhlith ein fflyd pysgota masnachol, bydd y cyllid pellach hwn gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i ni wella diogelwch y gymuned dyframaethu a physgota ehangach yng Nghymru.  Mae’r fenter wedi sicrhau cefnogaeth lawn SWAC a’i aelodau.”

Anogodd Trevor Jones, Cadeirydd Pwyllgor Diogelwch Pysgota Cymru (WFSC) weithwyr cymwys i fanteisio ar y cynllun.  Ychwanegodd:

“Mae’r cynllun yn agored i bysgotwyr cocos masnachol gweithredol sy’n meddu ar drwydded  neu hawlen gyfredol er mwyn casglu cocos, a busnesau cynhyrchu dyframaethu gweithredol.  Dylai pawb sy’n gymwys fanteisio ar y cynnig hwn o gael offer dibynadwy a fydd yn achub bywydau.  Un o brif nodau WFSC yw sicrhau na fydd unrhyw farwolaethau ataliadwy yn digwydd yn y diwydiant bwyd môr yng Nghymru, a chynnal y sefyllfa honno.  Mae gwisgo PFD gyda PLB wrth weithio mewn mannau rhynglanwol yn ffordd sicr o’n helpu i wireddu’r nod hwn.”

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Dr Holly Whiteley, Rheolwr Rhanbarthol Cymru ar 01248 812 038 neu holly.whiteley@seafish.co.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle