Heddiw, mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi cadarnhau na fydd cyfraddau busnes yng Nghymru yn destun cynnydd ar sail chwyddiant yn 2021-22.
Bydd rhewi’r lluosogydd y flwyddyn nesaf yn helpu i gefnogi tua 54,000 o dalwyr ardrethi ledled Cymru, nad ydynt eisoes yn cael 100% o ryddhad ardrethi. Mae hyn yn golygu bod busnesau wedi arbed dros £90 miliwn ar eu biliau ardrethi ers 2018-19.
Yn gynharach eleni, gwnaeth Llywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi pecyn rhyddhad ardrethi gwerth £580 miliwn i ddarparu’r cymorth angenrheidiol i fusnesau oroesi’r pandemig.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:
“Rydym yn cydnabod y pwysau sydd ar fusnesau ac rydym yn parhau i ystyried y mesurau cymorth y gallwn eu rhoi ar waith i helpu busnesau i ymdopi ag effaith economaidd pandemig y coronafeirws a diwedd cyfnod pontio’r UE.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhoi sicrwydd i fusnesau na fyddant yn gweld cynnydd yn eu hardrethi busnes y flwyddyn nesaf.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle