Cynllun peilot o gyflwyno brechiad COVID-19 yn dechrau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

0
637
Mary Kier

Mae preswylwyr y cartref gofal cyntaf yng ngorllewin Cymru wedi derbyn y brechlyn COVID-19 heddiw (dydd Iau 17 Rhagfyr) fel rhan o gyflwyniad graddol a gofalus i gartrefi gofal.

Derbyniodd 37 o drigolion Awel Twyi yn Llandeilo eu dos cyntaf o’r brechlyn Pfizer-Biontech, gan gynnwys Mary Kier 108 oed, cyn nyrs ac ail fenyw hynaf Cymru.

Wrth siarad yn fuan ar ôl derbyn ei brechlyn, dywedodd Mary: “Roeddwn yn hapus iawn i gael y brechlyn heddiw. Rydym wedi bod yn aros am hyn.

“Diolch i Dduw am y bobl sydd wedi gallu ei gael yn barod i ni. Rydym yn lwcus iawn. Rwyf nawr yn teimlo’n llawer mwy diogel a hapusach.”

Y bwriad yw i’r brechlyn fod ar gael mewn lleoliadau eraill yn ystod yr wythnosau nesaf, unwaith y bydd dysgu o’r peilot cartrefi gofal wedi’i asesu.

Bu pryderon ynghylch cynnal sefydlogrwydd y brechlyn Pfizer / BioNtech y tu allan i ganolfannau brechu ysbytai gan fod angen ei storio fel arfer ar minws 70 gradd canradd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod yn helaeth gyda’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a gwneuthurwr y brechlyn sut i ail-bacio a chludo’r brechlyn heb amharu ar y safonau diogelwch ac effeithiolrwydd y mae cleifion yn eu disgwyl. Roedd hyn yn golygu na fu’n effeithlon hyd yma i fynd â’r brechlyn i breswylwyr cartrefi gofal.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Er bod sesiwn brechu cartrefi gofal llwyddiannus heddiw yn foment arwyddocaol i ni yma yng ngorllewin Cymru, rydym yn paratoi at ei gyflwyno i  breswylwyr cartrefi gofal yn ofalus wrth i ni ddysgu sut i gludo a gweinyddu’r brechlyn arbennig o anodd hwn i ffwrdd o’n prif ganolfan frechu.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd llawer o’n preswylwyr cartrefi gofal yn awyddus i gael gafael ar y brechlyn cyn gynted â phosib. Nid dyma ddechrau cyflwyno’r brechlyn i holl breswylwyr cartrefi gofal eto ond bydd bod yn rhan o’r peilot hwn yn ein rhoi mewn lle da i ddechrau unwaith y bydd dysgu o’r peilot cartrefi gofal wedi’i asesu.”

Dywedodd Dr Gill Richardson, Cadeirydd Rhaglen Brechlyn COVID-19 Cymru: “Mae cyflwyno brechlyn COVID-19 i staff a thrigolion cartrefi gofal bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi bod yn gweithio ers misoedd i gwrdd â heriau dosbarthu a chredwn fod gennym ddatrysiad dichonadwy y byddwn yn ei ddefnyddio mewn safleoedd peilot o ddydd Mercher. Mae staff cartrefi gofal wedi cael cynnig imiwneiddio yng nghanolfannau’r Bwrdd Iechyd wrth aros i’r model symudol gychwyn.

“Rydyn ni nawr yn hyderus iawn y gall ysbytai’r GIG ail-bacio a chludo’r brechlyn i gartrefi gofal heb amharu ar ei sefydlogrwydd.”

Dywedodd aelod o Fwrdd Gweithredol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cyngor Sir Caerfyrddin y Cynghorydd Jane Tremlett: “Mae dyfodiad y brechlyn Covid i Awel Tywi yn newyddion i’w groesawu’n fawr ac yn foment nodedig yn yr hyn a fu’n flwyddyn anodd iawn i bob un ohonom. Bydd cael y brechlyn hwn yn lleihau’r siawns o gymhlethdodau coronafeirws i’n preswylwyr mwyaf agored i niwed a dyma’r cam cyntaf mewn proses o ail-uno anwyliaid â’u teuluoedd. Rydym nawr yn edrych ymlaen at weld y brechlyn yn cael ei gyflwyno ym mhob cartref gofal yn Sir Gaerfyrddin unwaith y bydd cyflenwadau pellach ar gael.”

Wrth i gyflenwadau pellach ddod ar gael a brechlynnau ychwanegol yn cael cymeradwyaeth MHRA, bydd dull fesul cam i gynnig y brechlyn i grwpiau eraill, yn seiliedig ar y risg o gymhlethdodau difrifol a marwolaethau.

Anogir pobl i aros i gael eu gwahodd, a fydd yn digwydd trwy systemau’r GIG. Peidiwch â gofyn i’ch fferyllydd neu meddyg teulu.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle