Eleni mae’r Mentrau Iaith yn codi ymwybyddiaeth o draddodiadau hynafol Cymreig yn cynnwys y Fari Lwyd. Fel rhan o’r ymgyrch bydd Stomp y Fari Lwyd yn cael ei chynnal ar-lein i ddathlu’r Hen Galan ar Ionawr 12fed, 2021.
Penglog ceffyl wedi addurno â rhubanau lliwgar a chynfas wen yw’r Fari Lwyd. I ddathlu’r ffaith fod dyddiau tywyllaf y flwyddyn drosodd, a bod y gwanwyn ar y gorwel mae’r Fari fel arfer yn teithio o amgylch cartrefi a thafarndai er mwyn perswadio’r ddaear i ddeffro o drwmgwsg y gaeaf. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r traddodiad hwn mae’r Mentrau Iaith wedi creu fideo digri, diolch i gydweithrediad â Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd), a phecyn gweithgaredd hwyliog i blant. Mae’r ymgyrch hwn yn rhan o gyfres o weithgareddau yn dilyn cydweithio rhwng rhwydwaith y Mentrau Iaith yn genedlaethol.
Dywed Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Partneriaethau Mentrau Iaith Cymru;
“Ers misoedd bellach mae tîm o swyddogion y Mentrau Iaith yn cyfarfod i gydweithio a chyd-drafod er mwyn datblygu syniadau. Ffrwyth y cyfarfodydd yw ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth cymunedau o’n traddodiadau hynafol Cymreig, yn cynnwys chwedlau Calan Gaeaf, y Plygain a nawr y Fari Lwyd. Drwy rannu gwybodaeth am y defodau lliwgar a diddorol hyn gobeithiwn gyflwyno’r traddodiadau i gynulleidfa newydd ac ysbrydoli pobl Cymru i ddarganfod mwy am ein hunaniaeth.”
Rhan bwysig o ddefod y Fari Lwyd yw’r Pwnco, sef canu penillion ar stepen drws er mwyn cael mynediad i dŷ neu dafarn. Gan nad yw hyn yn bosib eleni, bydd Stomp y Fari Lwyd yn gyfle i’r cyhoedd gymryd rhan yn y Pwnco ar-lein. Os hoffech chi gystadlu, yr oll sydd angen ei wneud yw ysgrifennu hyd at bedair pennill ar dôn ‘Wel dyma ni’n dŵad’ a gyrru fideo o’ch hun yn eu canu at eich Menter Iaith leol erbyn Ionawr y 5ed. Bydd 9 lwcus yn cael eu dewis i fynd ymlaen i gystadlu yn Stomp y Fari Lwyd dan arweiniad y stompfeistri Anni Llŷn a Tudur Phillips.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.mentrauiaith.cymru/mari-lwyd
DIWEDD
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle