Arddangosfa ar thema Covid-19 gan ddisgyblion Tyddewi i’w gweld ar-lein

0
429

Mae arddangosfa newydd yn dangos gwaith celf gan ddisgyblion ysgol Tyddewi i’w gweld ar-lein yn awr ar ôl i gyfyngiadau Covid-19 arwain at gau Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, lle roedd y gwaith i fod i gael ei arddangos.

Mae Gwobr Jeff Davies, sy’n cael ei threfnu a’i hariannu gan Gyfeillion Oriel y Parc, yn gystadleuaeth gelf flynyddol mewn partneriaeth ag Ysgol Penrhyn Dewi, er cof am ŵr lleol a chyn-gadeirydd Cyfeillion Oriel y Parc.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd y gwesteion arbennig Amanda Wright, Sarah Jane Brown ac Alun Davies, ac roedd y thema ‘Covid-19…Trwy Eich Llygaid Chi’ yn gofyn i fyfyrwyr ddehongli effaith y feirws.

Dywedodd Rheolwraig Oriel y Parc, Claire Bates: “Yn anffodus, fel roedden ni’n rhoi’r cyffyrddiad olaf i’r arddangosfa, bu’n rhaid i ni gau’r Ganolfan.

“Doedden ni ddim eisiau i holl waith caled y plant fod y tu ôl i ddrysau caeedig, felly roedden ni’n credu mai’r unig opsiwn oedd creu oriel ar-lein fel bod pawb yn gallu gweld y gwaith celf anhygoel hwn.

“Er ein bod wedi cau nawr tan y Flwyddyn Newydd, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymweld ag Oriel y Parc eleni gan edrych ymlaen at groesawu mwy o bobl cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny yn 2021.”

Rhannwyd gwobr gyntaf Campws Dewi rhwng Jazmine Hanna a Shelby Hanna, a chyflwynwyd y drydedd wobr i Becky Wadia.

Enillydd categori Campws Non oedd Seren Reason, gyda Becky Millington yn ail a Carys Reason yn drydydd.

Ar Gampws Aidan, Leila Lloyd Phillips oedd yr enillydd, gyda Liliwen Evans yn ail ac Archie Morgan yn drydydd.

I weld y newyddion diweddaraf o Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc ac i weld arddangosfa Gwobr Jeff Davies ar-lein ewch i www.orielyparc.co.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle