Cant y cant i gwrs cydymaith meddygol yr Ysgol Feddygaeth unwaith eto

0
590

Mae cwrs cydymaith meddygol Prifysgol Abertawe yn dathlu camp anhygoel – llwyddodd cant y cant o’i fyfyrwyr i basio’r arholiadau cydymaith meddygol cenedlaethol am y drydedd flwyddyn yn olynol. 

Dim ond yn 2016 y lansiwyd y cwrs MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol ond mae eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan gael ei wobrwyo drwy gael cyllid i gynnig lleoedd ychwanegol. 

Mae cymdeithion meddygol yn rhan gynyddol bwysig o system gofal iechyd sy’n datblygu. Ar Ă´l cael eu hyfforddi fel meddygon yn ystod cwrs gradd sy’n para am ddwy flynedd, maent yn helpu meddygon mewn ymarfer clinigol. Mae cydymaith meddygol yn cyflawni tasgau tebyg i feddyg, gan gynnwys cynnal archwiliadau, rhoi diagnosis a rheoli cleifion. 

Ar ôl sicrhau eu cymwysterau, mae eu harbenigedd meddygol cyffredinol yn golygu y gallant ddilyn gyrfa mewn amrywiaeth o arbenigaethau mewn ysbyty neu bractis cyffredinol. 

 

Roedd cyfradd basio’r garfan ddiweddaraf o fyfyrwyr sy’n cael eu hyfforddi yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gant y cant yn yr arholiadau cydymaith meddygol cenedlaethol a gynhaliwyd ym mis Medi, un o bedwar cwrs yn unig yn y DU i gyflawni’r gamp honno.  

Meddai’r Athro Wyn Harris, cyfarwyddwr y rhaglen: “Y flwyddyn academaidd ddiwethaf oedd yr un fwyaf heriol erioed, ond gwnaeth pawb sy’n gysylltiedig â’r cwrs hwn helpu i barhau i addysgu ein myfyrwyr ac, yn bwysicach byth, i gynnal ansawdd yr addysg honno. 

“Mae’r canlyniadau gwych yn yr arholiadau hyn yn destun clod i’n myfyrwyr, yn ogystal â’r ymdrech a wnaed gan y tĂŽm i’w galluogi i lwyddo. Rydym mor falch o’n myfyrwyr a’u heffaith gadarnhaol ar weithlu’r GIG.” 

Yn Ă´l yr Athro Keith Lloyd, Deon y Gwyddorau Bywyd ac Iechyd, mae’r MSc yn un o straeon llwyddiant yr Ysgol Feddygaeth. 

Meddai: “Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu a chefnogi gweithlu gwyddorau bywyd ac iechyd y dyfodol ac mae ein cymdeithion meddygol yn rhan bwysig yn hyn o beth. 

“Rydym wrth ein boddau gyda’r canlyniadau gwych hyn unwaith eto. Rhaid llongyfarch pawb sydd wedi chwarae rhan wrth sicrhau bod y cwrs hwn mor llwyddiannus.”  

Meddai Dr Lisa Williams, gastroenterolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Singleton ac un o’r clinigwyr sy’n cyfrannu at yr hyfforddiant: “Yn glinigol, mae’r cymdeithion meddygol yn ardderchog – maent yn ychwanegiad gwych at ein timau.” 

Gellir cael mwy o wybodaeth am y cwrs MSc cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais, sef 31 Ionawr, drwy fynd i dudalen y cwrs ac mae manylion cofrestru ar gyfer diwrnod agored rhithwir ar gael hefyd. 

Caption:

Myfyrwyr llwyddiannus yn dathlu ar Ă´l graddio o’r cwrs cydymaith meddygol yn 2019. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle