Modelau rôl benywaidd mewn STEM yn ystod pandemig COVID-19

0
547
Deputy Minister and Chief Whip Jane Hutt (Welsh Labour - Vale of Glamorgan)

Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at rôl hanfodol gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn y byd heddiw. Nid yw gweithwyr STEM proffesiynol erioed wedi bod fwy yn llygad y cyhoedd. Yn ddiweddar, gofynnwyd i mi yn y Senedd “sut gellir defnyddio proffil uwch menywod sy’n wyddonwyr yn ystod y pandemig i gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan?” Mae’r pandemig wedi cael ei ddisgrifio cyfle amserol, fel “moment Apollo”, sy’n rhoi mwy o amlygrwydd i wyddoniaeth, yn tynnu sylw at ei bwysigrwydd ac yn cynyddu ei apêl. Drwy rannu straeon am fodelau rôl benywaidd mewn STEM yn ystod y pandemig, gallwn ysbrydoli a chymell rhagor o ferched a menywod i astudio pynciau STEM, gan sicrhau eu bod ar lwybr tuag at yrfa werth chweil. 

Mae nifer o enghreifftiau o fodelau rôl benywaidd mewn STEM yng Nghymru sydd wedi dod i amlygrwydd yn ystod pandemig COVID-19. Dyma rai enghreifftiau o’u cyfraniadau a’u llwyddiannau eithriadol.

Cafodd Dr Catherine Moore, Dr Eleri Davies a’r Nyrs Ymgynghorol Gail Lusardi o Iechyd Cyhoeddus Cymru MBE yr un yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am eu gwasanaethau i iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig. 

Arweiniodd Dr Catherine Moore, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, yr ymdrech i gael profion COVID-19 yng Nghymru o fewn mis iddo gael ei gydnabod fel coronafeirws newydd. Arweiniodd hyn at labordy microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn dod yn ail yn y DU i allu profi am y feirws. Roedd Dr Moore yn cydnabod arwyddocâd COVID-19 ac yn sicrhau samplau cynnar i’w hastudio cyn i unrhyw achos gael ei adrodd yn y DU. Gan weithio gyda chydweithwyr, helpodd i sicrhau bod Cymru’n dechrau dilyniannodi’r feirws ddechrau mis Mawrth – ddiwrnodau ar ôl i’r achos cyntaf gael ei gadarnhau yn y wlad. Mae hyn wedi golygu bod Cymru wedi cyflwyno’r drydedd nifer fwyaf o achosion wedi’u dilyniannodi i gronfa ddata fyd-eang, gan ddarparu gwybodaeth am nodweddion COVID-19 a’i ledaeniad. 

Mae Dr Eleri Davies yn Ficrobiolegydd Meddygol Ymgynghorol ac yn Gyfarwyddwr Meddygol dros dro Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn ystod y pandemig, mae Eleri wedi bod yn gweithio’n agos gyda’i chydweithiwr, y Nyrs Ymgynghorol, Gail Lusardi, ar y mesurau atal a rheoli heintiau sydd eu hangen i leihau lledaeniad COVID-19 mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd yn ehangach. Mae’r gwaith wedi bod yn anodd, ond hefyd yn ddiddorol iawn gan eu bod yn defnyddio eu gwybodaeth a’u profiad o atal a rheoli heintiau a microbioleg ar draws pob lleoliad. Maent wedi rhyngweithio ac ymgysylltu ag arbenigwyr, Llywodraeth Cymru a phoblogaeth Cymru er mwyn lleihau lledaeniad yr haint hwn.

Mae Dr Ceri Lynch, ymgynghorydd mewn Anestheteg a Gofal Dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac arweinydd ymchwil gofal critigol, yn fodel rôl rhagorol arall ar gyfer menywod ym maes gwyddoniaeth glinigol. Mae Ceri a’i thîm wedi gweithio’n galed yn gofalu am gleifion gwael iawn yn yr uned gofal dwys. “Mae hi wedi bod yn eithriadol o dda am ofalu am gleifion sydd â COVID-19 yn yr amgylchiadau anoddaf a mwyaf heriol.” Mae Ceri hefyd wedi treulio amser yn gweithio ar dreialon clinigol i wella ein gwybodaeth am salwch difrifol. Mae astudiaethau arbennig o ddiddorol wedi cynnwys profion genetig i ddarganfod pam nad oes gan rai pobl symptomau gyda COVID-19 tra bo pobl eraill yn ddifrifol wael neu’n marw. Mae hi wedi bod yn ymchwilio i amrywiol gyffuriau ar gyfer trin COVID-19 ac mae hi wedi dod o hyd i un sy’n gwella goroesi. Mae Ceri hefyd wedi edrych ar ddefnyddio rhith-wirionedd i leihau poen, straen a phryder ymhlith cleifion, perthnasau a staff ysbytai. 

Arweiniodd yr Athro Valerie O’Donnell yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd adolygiad o dystiolaeth ryngwladol a oedd yn cynnig bod gan rinsio eich ceg botensial damcaniaethol i leihau trosglwyddiad y coronafeirws. Profodd y tîm effaith cegolch ar feirws SARS-CoV2 o dan amodau tiwb profi labordy a oedd yn dynwared gwddf unigolyn. Daethant i’r casgliad bod rhai mathau o gymysgeddau cegolch yn anactifadu heintusrwydd coronafeirws wrth iddynt ddod i gysylltiad am 30 eiliad. Cyflwynwyd canfyddiadau tebyg yn ddiweddar gan astudiaethau annibynnol mewn o leiaf dri labordy arall o amgylch y byd. Mae treial clinigol ar wahân sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd nawr yn profi a all cegolch anactifadu’r feirws yn y geg.

Mae Dr Vijayalakshmi Varadarajan yn Anesthetydd Ymgynghorol yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. Ar ddechrau pandemig COVID-19 defnyddiodd ei gwybodaeth a’i sgiliau i lunio protocol ar gyfer rhoi tiwbiau’n ddiogel ar gyfer MERIT (Tîm Symudol sy’n Rhoi Tiwbiau Endotracheaidd). Bu wrthi’n dangos ac yn addysgu’r sgil ar gyfer rhoi tiwbiau gyda’r risg lleiaf o AGP (Triniaeth sy’n Cynhyrchu Aerosolau) ar gyfer yr unigolyn sy’n rhoi’r tiwb. Bu’n hyfforddi ymgynghorwyr a hyfforddeion yn bersonol ynghylch y dechneg ddiogel hon. Er bod ei hymgynghorydd meddygol wedi gofyn iddi warchod yn ystod y pandemig, daliodd ati i weithio yn Ysbyty Iechyd Nuffield, yn rhoi cleifion gydag achosion brys o ganser o dan anesthetig. 

Mae’r Athro Awen Gallimore, sy’n imiwnolegydd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn aelod o Gonsortiwm Imiwnoleg COVID-19 a ariennir gan UKRI sy’n gweithio i ddeall sut mae’r system imiwnedd yn ymateb yn ystod COVID-19. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddeall patholeg y clefyd; canfod y cleifion sydd fwyaf mewn perygl o gael clefyd difrifol; helpu meddygon i benderfynu ar driniaethau; datblygu brechlynnau’n gyflym; a thriniaethau newydd ar gyfer COVID-19 difrifol.

Yr Athro Kamila Hawthorne MBE yw Pennaeth y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n feddyg teulu yn Aberpennar. Pan darodd COVID-19 ym mis Mawrth 2020, fe wnaeth Kamila ymgynnull ei thîm er mwyn newid y broses o addysgu myfyrwyr meddygol yn gyflym ac yn ddramatig a darparu addysg ar-lein. Bu Kamila yn gweithio gyda Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda yn sefydlu swyddi gwirfoddoli ar gyfer y myfyrwyr, ac roedd llawer ohonynt yn awyddus i helpu gyda’r argyfwng. Gan farnu bod myfyrwyr y flwyddyn olaf yn barod, cawsant gyfle i raddio dri mis yn gynnar ym mis Ebrill 2020, er mwyn iddynt allu dechrau gweithio fel meddygon iau ar unwaith. Drwy gydol hyn i gyd, mae Kamila wedi parhau i weld a gofalu am gleifion fel rhan o’i gwaith fel meddyg teulu rheng flaen. 

Mae Dr Emma Hayhurst yn brif wyddonydd ar brosiect ym Mhrifysgol De Cymru, yn datblygu prawf cyflym ar gyfer COVID-19. Mae’r prawf yn gyflym ac yn gludadwy, nid oes angen ei brosesu mewn labordy a gall y canlyniadau fod ar gael mewn llai na 30 munud. Mae cymaint o bosibiliadau o ran sut gellir defnyddio’r prawf hwn, er enghraifft, mewn cartrefi gofal, ysbytai, meysydd awyr, labordai deintyddol a meddygfeydd. Mae’r tîm wedi cael cyllid gan adran arloesi Llywodraeth Cymru i ddilysu’r prawf. Gallai hyn olygu ei fod ar gael i’w ddefnyddio yn gynnar yn 2021.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle