Mae’r brif elusen anifeiliaid anwes, Blue Cross, mewn cydweithrediad â Helen Mary Jones AS yn chwilio am anifail anwes mwyaf ffyddlon Cymru sydd wedi cefnogi eU perchennog neu’r gymuned ehangach yn ystod y pandemig coronafirws.
Gydag ymchwil yn dangos yr effaith gadarnhaol rhwng perchnogaeth anifeiliaid anwes a gwell iechyd meddwl, mae’r gystadleuaeth yn ceisio dathlu anifeiliaid anwes sydd wedi bod yn ddylanwad cadarnhaol ar iechyd meddwl eu perchnogion neu’r gymuned ehangach yn ystod y pandemig.
Wrth lansio’r gystadleuaeth yn lleol, dywedodd Helen Mary Jones AS:
“Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw anifeiliaid anwes i les pobl, roedd fy nghi anwes i, Sky sydd bellach yn anffodus wedi marw yn rhan bwysig o’n teulu. Mae pawb yn gwybod bod 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i ni i gyd, ac rydyn ni’n gwybod bod anifeiliaid anwes wedi helpu cymaint gyda’u hiechyd meddwl a’u lles.
Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i ni i gyd, ac rydyn ni’n gwybod bod anifeiliaid anwes wedi helpu cymaint â’u hiechyd meddwl a’u lles. Rwy’n falch iawn o weithio gyda’r elusen anifeiliaid anwes flaenllaw, Blue Cross i gydnabod a dathlu’r cyfraniad hwn ac rydym yn galw ar bobl ar draws y Canolbarth a Gorllewin i enwebu eu harwr covid – er mwyn dod o hyd i anifail anwes mwyaf ffyddlon Cymru.
Ar adeg pan mae cymaint o ansicrwydd yn ein bywydau i gyd a phwysau ar ein lles, mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i gydnabod anifeiliaid anwes am y positifrwydd a’r hapusrwydd y maen nhw’n gyfrannu i’n bywydau.”
Ychwanegodd Cyflwynydd Tywydd ITV Cymru Kelsey Redmore, un o feirniaid y gystadleuaeth:
“Fel rhywun sy’n caru anifeiliaid anwes rwy’n falch o fod yn cefnogi Blue Cross wrth geisio dod o hyd i anifail anwes mwyaf ffyddlon Cymru. Gwn am gynifer o unigolion sydd wedi dod o hyd i gwmnïaeth a chefnogaeth mawr gan eu hanifeiliaid anwes yn y flwyddyn anoddaf hon. Maent wedi bod yn achubiaeth i lawer, ac edrychwn ymlaen at ddathlu buddion perchnogaeth anifeiliaid anwes yn y ffordd arbennig hon. “
Wrth siarad ar ran Blue Cross, ychwanegodd y Pennaeth Materion Cyhoeddus Becky Thwaites:
“Rydym yn falch o fod yn lansio y galwad i ddod o hyd i anifail anwes mwyaf ffyddlon Cymru. Rydym yn gwybod bod ein hanifeiliaid anwes wedi bod yn achubiaeth i lawer yn ystod y cyfnod cloi ac wedi cynnig positifrwydd a hapusrwydd oedd ei angen yn fawr.
Rydym yn annog enwebiadau gan berchnogion anifeiliaid anwes a ffrindiau anifeiliaid anwes o bob rhan o Gymru. Rhaid anfon enwebiadau at eich ASau rhanbarthol neu etholaethol. Dylech gynnwys crynodeb o pam y dylid ystyried eich anifail anwes yn “anifail anwes mwyaf ffyddlon Cymru 2020”, gan dynnu sylw at sut mae wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles meddwl yn ystod y pandemig, a gallwch hefyd gynnwys llun. “
Mae’r gystadleuaeth yn agor ar yr 11eg o Ragfyr, ac yn cau ar yr 11eg o Ionawr.
E-bostiwch eich cyflwyniadau at helenmary.jones@senedd.cymru
Cyhoeddir yr enwebeiadau ar gyfer y rhestr fer ar 1af Chwefror a chyhoeddir yr enillydd ar y 5ed o Chwefror. Bydd yr enillydd yn derbyn ymhlith pethau eraill, tanysgrifiad chwe mis i focsys hyfryd Love Louie a thalebau ar gyfer Pets at Home.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle