Prentis gofal iechyd lleol yn cipio gwobr genedlaethol Arwr yr Arddegau

0
1254
Will Jones, BBC Radio 1 #TeenHero Award Dec20

Cyflwynwyd gwobr genedlaethol #TeenHero i Will Jones, 17 oed o Gaerfyrddin, gan Greg James o BBC Radio 1 yr wythnos hon i gydnabod ei waith a’r effaith gadarnhaol y mae wedi’i gael ar bobl yn ystod y pandemig COVID-19.

Mewn ymateb i alwad genedlaethol BBC Radio 1 am enwebiadau Gwobr Arwr yr Arddegau, enwebwyd Will, Technegydd Ffisiotherapi dan Hyfforddiant yn Ysbyty Glangwili, gan ei gariad, Tayla, a derbyniodd y newyddion annisgwyl yn fyw ar sioe frecwast BBC Radio 1 ddydd Iau 17eg Rhagfyr.

Ymunodd Will â chynllun yr Academi Prentisiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dros flwyddyn yn ôl. Pan drodd y pandemig COVID-19 y byd wyneb i waered, camodd i fyny i helpu fel gweithiwr rheng flaen.

Gofynnodd y DJ poblogaidd BBC Radio 1, Greg James, i Will am ei brofiad o weithio ym maes gofal iechyd yn ystod y pandemig ac atebodd: “Mae hi wedi bod yn fraint bod yn ran o daith ein cleifion a’u cael yn ôl i ryw normalrwydd. Mae’r tîm wir yn tynnu at ei gilydd ac rydyn ni’n cefnogi ein gilydd drwyddo. ”

Gwobrwywyd Will hefyd ar y rhaglen gyda negeseuon personol gan y bachwr Scarlets a Chymru Ken Owens a’r cyflwynydd chwaraeon Eddie Butler, yn diolch iddo am ei optimistiaeth, ei ffocws, ei anhunanoldeb, a’i waith caled ysbrydoledig.

Dywedodd y ffisiotherapydd Tom Miles, a weithiodd gyda Will: “Mae Will wedi bod gyda ni fel technegydd ffisiotherapi drwy’r llynedd ac wedi gweithio’n ddiflino ar ein wardiau meddygol a strôc. Mae bob amser yno ar gyfer unrhyw dîm neu ward sydd ei angen. Mae wedi dangos gwytnwch ac uniondeb mawr yn ystod yr amseroedd ansicr hyn ac mae wedi helpu nifer o gleifion trwy ailsefydlu a rhyddhau fel y gallant gyrraedd adref yn ddiogel. ”

Canmolodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ymdrechion Will gan nodi: “Mae hon yn foment arbennig i Will a’i deulu, a hefyd i’w gydweithwyr yn y gwasanaeth ffisiotherapi a’r bwrdd iechyd yn ei gyfanrwydd.

“Mae Will yn enghraifft wych i bobl ifanc eraill ac mae wedi ysbrydoli eraill yn ystod yr amseroedd heriol hyn. Rydym yn cymeradwyo’r gydnabyddiaeth haeddiannol hon ac yn gobeithio ei bod yn annog eraill i feddwl am y cyfleoedd y gallai prentis gofal iechyd eu cynnig ar eu cyfer. ”

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn lansio ei raglen Academi Prentisiaethau nesaf ym mis Ionawr. Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/swyddi/gweithio-i-ni/ymgyrchoedd-recriwtio/academi-brentisiaeth/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle