MAE WYTHNOS LLEOLIADAU ANNIBYNNOL 2021  YN CYHOEDDI MAI GRUFF RHYS FYDD EI  LLYSGENNAD CENEDLAETHOL CYMRU

0
488
Gruff Rhys

DYDD LLUN 25 IONAWR – DYDD SUL 31 IONAWR 2021

DROS 75 O LEOLIADAU ANNIBYNNOL Y DU

MEWN PARTNERIAETH Â – ARTS COUNCIL ENGLAND, SEE TICKETS, YAMAHA, FRED PERRY, PPL, THE MUSICIANS UNION, THE F LIST, LOADIN.COM

Independentvenueweek.com

Lansio Ffilm Cyhoeddi Digwyddiad  yma

#IVW21

Am y tro cyntaf yn ei hanes dros 8 mlynedd, bydd Wythnos Lleoliadau Annibynnol eleni yn cael ei chynrychioli gan bedwar llysgennad – un ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU – a fydd yn arwain y ffordd wrth hyrwyddo lleoliadau annibynnol, a’u cymunedau, yn eu gwledydd perthnasol wrth i IVW 2021 nesáu. Gruff Rhys yw’r ail lysgennad i gael ei gyhoeddi yn dilyn Arlo Parks  bydd yn cynrychioli ei wlad frodorol, Cymru. Cynhelir IVW o ddydd Llun 25 Ionawr tan ddydd Sul 31 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i Independentvenueweek.com.

Mae Gruff Rhys wedi bod yn seren byd cerddorol Cymru am bron i 25 o flynyddoedd, ers denu sylw fel cyfansoddwr caneuon a chantor blaenllaw band roc o Gaerdydd, Super Furry Animals. Fel polymath gyda doniau di-rif (cerddor, gwneuthurwr ffilmiau ac awdur), bydd Rhys yn cynrychioli IVW yng Nghymru am y tro cyntaf eleni.

Medd Gruff Rhys:

“Fel cerddor sy’n teithio, mae fy ngwaith yn gwbl gysylltiedig â lleoliadau annibynnol. Mae’n ymwneud â phobl, nid yr adeiladau eu hunain. Mae’n ymwneud â’r egni a’r brwdfrydedd mae cefnogwyr cerddoriaeth wedi’u creu mewn trefi a dinasoedd a phentrefi, felly mae angen inni gynnig ffordd i’r bobl hynny leisio eu barn.

Mae artistiaid sy’n teithio yn dibynnu’n gyfan gwbl ar frwdfrydedd hyrwyddwyr a lleoliadau annibynnol. Y gwir amdani yw bod cerddoriaeth yn angerdd gydol oes i’r rhan fwyaf o bobl, ond yn anaml iawn y gall cantorion ennill bywoliaeth lawn ohoni, felly mae cerddoriaeth yn bodoli diolch i angerdd pobl i wrando ar gerddoriaeth, ei rhannu a rhoi llwyfan i gerddoriaeth newydd. Mae lleoliadau annibynnol yn cadw’r meddylfryd hynny, gan ei gwneud hi’n bosib i gerddorion chwarae – mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhan o hyn yn ei gwneud hi allan o gariad. Mae’r lleoliadau annibynnol hynny’n creu’r amgylchiadau sy’n ei gwneud hi’n bosib i bopeth arall ddigwydd ym maes cerddoriaeth.”

Yn hanesyddol, mae cannoedd o leoliadau ledled y DU yn cymryd rhan yn Wythnos Lleoliadau Annibynnol, gan wahodd ag amrywiaeth drawiadol o artistiaid cyffrous i gymryd rhan mewn sioeau arbennig ym mhob cwr o’r wlad i ddathlu lleoliadau annibynnol a’u cymunedau. Mae’r fenter yn gyfle gwych i amlygu’r ecosystem ar lawr gwlad yn y sector cerddoriaeth fyw, sef ecosystem sy’n cynnwys nid yn unig y lleoliadau a’r bobl sy’n berchen arnynt, yn eu rheoli ac yn gweithio ynddynt, ond hefyd yr hyrwyddwyr, yr artistiaid, y rheolwyr, y criw yn ogystal â chwmnïoedd labeli, offer, nwyddau, tocynnau a chludo ar gyfer sioeau teithiol a’r bobl hollbwysig, sef y rheini sy’n frwdfrydig am gerddoriaeth a’r rhai sy’n mynd i gyngherddau.

Wrth inni gamu i 2021, mae’n glir ein bod ni’n bell iawn o unrhyw fath o gyfle i fwynhau cerddoriaeth fyw yn ddiogel mewn lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad, ac iechyd a lles ein holl gymuned yw ein blaenoriaeth. Mae IVW yn ymateb drwy addasu’r ffordd y gellir cyrchu sioeau drwy gydol yr wythnos, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau digidol. O sesiynau trafod ag artistiaid, labeli, hyrwyddwyr, pobl sy’n mynd i gyngherddau a sefydliadau diwydiannol eraill i bartïon gwrando ar albymau, ffrydiau byw a recordiwyd o flaen llawn, comedïau cerddorol a chwisiau.

 

Bydd llai a llai o leoliadau ac artistiaid yn cymryd rhan na mewn blynyddoedd blaenorol, ond ceir straeon i’w hadrodd a phrofiadau i’w rhannu o hyd ac maent yr un mor bwysig nawr ag erioed – bydd llawer o’r rhain gyda phobl sydd fel arfer y tu ôl i’r llenni, gan gynnig cyfle newydd i ddysgu am sut mae’r diwydiant yn gweithio. Mae IVW yn ymroddedig i roi lleoliadau a’u cymunedau wrth wraidd yr hyn mae’n ei wneud drwy barhau i roi sylw iddynt, ledled y DU, fel y mae wedi gwneud am yr 8 mlynedd ddiwethaf.

 

Hyd yn hyn eleni, mae 79 o leoliadau mewn 53 o bentrefi, trefi a dinasoedd gwahanol wedi ymrwymo i gymryd rhan, ac mae 82% ohonynt y tu allan i Lundain.

 

Mae Wythnos Lleoliadau Annibynnol yn cael ei hariannu’n hael drwy bartneriaeth hirsefydlog ag Arts Council England, ynghyd â chefnogaeth gan DCMS fel rhan o’i raglen Cronfa Adfer Diwylliant gwerth £1.57 biliwn, Creative Scotland, See Tickets, Yamaha, Fred Perry a PPL. Mae The F List a loadin.com hefyd yn bartneriaid mewn nwyddau eleni. Dyma’r tro cyntaf i See Tickets fod yn bartner tocynnau swyddogol ond mae’r cwmni wedi hyrwyddo lleoliadau annibynnol ledled y DU ers amser hir.

Caiff cynrychiolwyr pellach o Ogledd Iwerddon a’r Alban eu cyhoeddi’n hwyrach yr wythnos hon.

Rhyddhawyd Independent Venue Week Live 2020, y drydedd record fyw ar finyl yn unig, ar 11 Rhagfyr 2020. Er y bydd Wythnos Lleoliadau Annibynnol yn wahanol iawn eleni, caiff y gweithgareddau y gellir eu cynnal ar gyfer rhaglen 2021 eu cyhoeddi yn y dyddiau a’r wythnosau i ddod.

 

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle