Arweinydd Plaid Adam Price yn talu teyrnged i Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, sy’n ymddeol

0
302
Adam Price - Plaid Cymru Leader

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi talu teyrnged i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, sydd wedi cyhoeddi ei fod yn sefyll i lawr yn yr etholiad nesaf.

Mr Jones, cynrychiolydd Plaid Cymru, yw ail gomisiynydd heddlu a throsedd erioed y rhanbarth ac mae wedi bod yn gomisynydd ers 2016, ac yn wreiddiol roedd yr etholiad nesaf i fod i gael ei gynnal fis Mai diwethaf ond cafodd y bleidlais ei rhoi yn ôl flwyddyn oherwydd pandemig Covid-19.

Dywedodd Arfon Jones: “Y prif reswm rwyf wedi penderfynu peidio â cheisio ailethol yw y byddaf yn gweithio am fwy na 46 mlynedd erbyn yr etholiad nesaf.

“O ganlyniad i’r pandemig estynnwyd y tymor yn y swydd am flwyddyn. Dechreuais feddwl am hyn fis Mai diwethaf ond ni siaradais ag unrhyw un arall amdano tan dri mis yn ôl.

 

“Rwyf wedi cyflawni llawer yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac mae’n mynd i fod yn anoddach gwneud gwahaniaeth y tro nesaf oherwydd y pandemig, Brexit a’r ffaith bod y tymor swydd wedi’i gwtogi i dair blynedd.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price MS,

“Rydym yn ddyledus i Arfon Jones am ei gyfraniad aruthrol fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd gogledd Cymru.

“O lansio Checkpoint Cymru – prosiect i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu; comisiynu gwasanaethau gwerth dros £2 filiwn i gefnogi dioddefwyr troseddau; arwain y gad wrth fynd i’r afael â thrais domestig ac i gadw ein cymunedau’n ddiogel yn ystod pandemig Coronavirus yn fwy diweddar, Mae cyflawniadau sylweddol Arfon yn y swydd yn dyst i’w ymrwymiad i’r etholwyr y mae’n eu gwasanaethu.

“Ar ran Plaid Cymru hoffwn ddiolch i Arfon Jones am ei gyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru ac anfon ein dymuniadau cynhesaf ato ar gyfer y dyfodol.

Ychwanegodd Cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones,

“O ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, amddiffyn ein cymunedau ac atal troseddu ac aildroseddu, mae gwaith diflino Arfon Jones wedi helpu i wneud gogledd Cymru yn lle mwy diogel.

“Yn was cyhoeddus ym mhob ystyr y gair, bydd yn cael ei gofio am gynrychioli pobl gogledd Cymru mewn modd penderfynol ac am ymladd i sicrhau bod lleisiau dioddefwyr trosedd yn cael eu clywed o fewn y system gyfiawnder.

“Ar ran Plaid Cymru, hoffwn ddymuno’r gorau iddo yn y dyfodol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle